Tensiwn rhwng Prydain ac Iwerddon ynglŷn â mudwyr
Bydd gweinidogion Prydain ac Iwerddon yn cyfarfod wrth i densiynau gynyddu dros bolisi’r DU ar fewnfudwyr.
Mae Llywodraeth Iwerddon yn dweud eu bod yn gweld nifer o geiswyr lloches yn dod o Ogledd Iwerddon oherwydd eu bod yn "ofni" cael eu hanfon i Rwanda.
Maent yn dweud na fyddant yn caniatáu i Iwerddon fod yn “ddihangfa” ar gyfer “heriau mudo” unrhyw wlad arall.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddan nhw yn mynd â nhw yn ôl oni bai bod yr Undeb Ewropeaidd yn newid eu safbwynt ar ddychwelyd mewnfudwyr i Ffrainc.
Roedd disgwyl i drafodaethau rhwng Ysgrifennydd Cartref y DU a Gweinidog Cyfiawnder Iwerddon gael eu cynnal ddydd Llun.
Ond heb esboniad fe gafodd y trafodaethau eu gohirio.
Fodd bynnag, mae disgwyl i weinidogion ymgynnull yn Llundain.
Mae Iwerddon wedi dweud bod 80% o geiswyr lloches diweddar wedi cyrraedd o Ogledd Iwerddon.
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dadlau bod unrhyw gynnydd yn nifer y bobl sy'n cyrraedd Iwerddon yn dangos bod polisi Rwanda, a ddaeth yn gyfraith yr wythnos diwethaf, eisoes yn gweithio.
Ddydd Sul, dywedodd Taoiseach (prif weinidog Iwerddon) Simon Harris na fyddai’n “caniatáu i bolisi mudo unrhyw un arall effeithio ar ein un ni”.
Dywedodd ei fod wedi gofyn i Weinidog Cyfiawnder Iwerddon, Helen McEntee, gyflwyno deddfwriaeth i'r cabinet ddydd Mawrth a fyddai'n galluogi ceiswyr lloches i gael eu hanfon yn ôl i'r DU.