Disgwyl i Brif Weinidog Yr Alban ymddiswyddo
Mae disgwyl i Brif Weinidog Yr Alban, Humza Yousaf ymddiswyddo yn hytrach na wynebu dwy bleidlais o ddiffyg hyder ynddo ef ei hun a Llywodraeth yr Alban.
Mae dyfodol Mr Yousaf wedi bod yn fantol ar ôl dod â chytundeb rhannu pŵer yr SNP â Phlaid Werdd yr Alban i ben yn sydyn ddydd Iau diwethaf.
Y gred yw y gallai'r Prif Weinidog ymddiswyddo yn ddiweddarach ddydd Llun.
Mae un o Aelodau Llafur Holyrood, Paul O'Kane wedi dweud wrth y BBC ei bod hi'n "fater o bryd ac nid os" y bydd yn ymddiswyddo.
Mae'r gwrthbleidiau wedi gosod dwy bleidlais gerbron i'w trafod. Un yn ymwneud gyda'i arweinyddiaeth ef a'r llall ynglŷn â llywodraeth yr SNP.
Pe byddai yn aros nes y bleidlais byddai angen cefnogaeth o leiaf un aelod o’r wrthblaid yn Holyrood i oroesi.
Mae'r AS Paul O'Kane wedi dweud y bydd Llafur yn dal i ofyn am bleidlais ar lywodraeth yr SNP os bydd y Prif Weinidog yn ymddiswyddo.
Mae llefarydd Humza Yousaf yn barod wedi dweud na fyddai yn barod i gytuno ar gytundeb etholiadol gyda Phlaid Alba i ennill ei chefnogaeth yn y bleidlais.
'Gêm wleidyddol'
Wythnos diwethaf, cyhuddodd Humza y gwrthbleidiau o “chwarae gêm wleidyddol”.
Dywedodd: “Byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith, a phan ddaw’r bleidlais rwy’n llwyr fwriadu ennill.”
Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n gweithio gydag arweinydd Plaid Alba yn Holyrood, Ash Regan, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n ysgrifennu at yr holl arweinwyr, yn eu gwahodd i gyfarfod mewn ymgais i “wneud i lywodraeth leiafrifol weithio” .
Mae Ms Regan wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn dweud beth yw ei gofynion os yw am gefnogaeth ganddi.
Mae'n dweud ei bod am weld cynnydd ar annibyniaeth i’r Alban ac amddiffyn “hawliau menywod a phlant”.