Newyddion S4C

Humza Yousaf yn wfftio'r syniad o gytundeb gwleidyddol gyda phlaid Alex Salmond

28/04/2024
Senedd Yr Alban

Mae llefarydd Humza Yousaf wedi wfftio'r syniad y byddai Prif Weinidog yr Alban yn cytuno ar gytundeb etholiadol gyda Phlaid Alba i ennill ei chefnogaeth cyn y pleidleisiau diffyg hyder sydd ar y gorwel.

Mae Mr Yousaf yn ceisio adeiladu pontydd gydag arweinwyr y pleidiau eraill yn Holyrood wrth iddo frwydro dros ei ddyfodol gwleidyddol, gan eu gwahodd i sgyrsiau yn ei gartref swyddogol.

Dywedodd arweinydd Plaid Alba, cyn brif weinidog yr Alban, Alex Salmond, mai hanfod unrhyw drafodaeth gyda Mr Yousaf fyddai’r syniad o adfywio strategaeth 'Scotland United' – a fyddai’n gweld un ymgeisydd o blaid annibyniaeth yn sefyll ym mhob etholaeth yn yr Alban.

Dywedodd wrth The Sunday Times: “Os ydych chi’n cofio’r syniad Scotland United o’r llynedd yr oedd Humza newydd ei anwybyddu, a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r grwpiau Ie ac ymhlith cefnogwyr yr SNP.

“Byddai’n anodd ei adfywio’n llawn nawr oherwydd yn amlwg mae ymgeiswyr wedi’u dewis [ar gyfer yr etholiad cyffredinol], ond fe allai gael ei adfywio’n rhannol, neu fe allai fod dealltwriaeth ar gyfer etholiadau’r Alban ymhen dwy flynedd. 

"Felly trafodaeth ar hyd y llinellau hyn, felly mae’n ddewislen o opsiynau annibyniaeth.”

Ond fe wfftiodd llefarydd ar ran Mr Yousaf y syniad, gan ddweud: “Mae hyn yn ffantasi. Does dim posib i’r Prif Weinidog gytuno ar unrhyw gytundeb fel hyn gydag Alex Salmond.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.