Oriawr o'r Titanic yn gwerthu am £1 miliwn mewn arwerthiant
Mae oriawr boced aur a gafodd ei darganfod o gorff y dyn cyfoethocaf ar y Titanic wedi gwerthu am £1.175m mewn arwerthiant.
Cafodd yr oriawr ei gwerthu ddydd Sadwrn i gasglwr preifat yn yr Unol Daleithiau yn arwerthiant Henry Aldridge yn Devizes, Wiltshire, am y swm uchaf erioed ar gyfer eitemau o'r Titanic, meddai’r arwerthwyr.
Aeth perchennog gwreiddiol yr oriawr, y dyn busnes John Jacob Astor, 47, i waelod y môr gyda’r llong ym 1912 ar ôl hebrwng ei wraig newydd Madeleine i fad achub.
Y swm uchaf blaenorol a dalwyd am eitem o'r Titanic oedd £1.1 miliwn am ffidil a gafodd ei chwarae wrth i’r llong suddo – a werthodd yn yr un arwerthiant yn 2013, yn ôl yr arwerthwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr arwerthwyr fod y £1.175 miliwn yn cynnwys ffioedd a threthi a dalwyd gan y prynwr.
Dywedodd yr arwerthwr Andrew Aldridge wrth asiantaeth newyddion PA fod y prisiau o'r arwerthiant am yr eitemau o'r Titanic yn “hollol anhygoel”.
Dywedodd Mr Aldridge: “Maen nhw’n adlewyrchu nid yn unig pwysigrwydd yr arteffactau eu hunain a’u prinder ond maen nhw hefyd yn dangos yr apêl a’r diddordeb parhaus yn stori’r Titanic.
"112 o flynyddoedd yn ddiweddarach, rydyn ni’n dal i siarad am y llong a’r teithwyr a’r criw."
Llun: Henry Aldridge/PA