Newyddion S4C

Y BBC 'wedi rhybuddio Huw Edwards' ddwy flynedd cyn sgandal y cyflwynydd

28/04/2024
Huw Edwards

Fe wnaeth y BBC rybuddio'r cyflwynydd Huw Edwards am ei ymddygiad ar-lein yn dilyn cwyn gan ddynes yn 2021 - ddwy flynedd cyn i'r sgandal amdano ddod i'r wyneb.

Yn ôl adroddiad yn The Sunday Times ddydd Sul, gofynnodd y ddynes i'r BBC ymyrryd er mwyn atal cyswllt Mr Edwards gyda hi.

Fe ymddiswyddodd Huw Edwards o'r gorfforaeth wythnos ddiwethaf ar gyngor meddygol.

Fe gafodd ei wahardd gan y gorfforaeth ym mis Gorffennaf 2023.

Roedd papur newydd The Sun wedi adrodd ar y pryd fod cyflwynydd amlwg wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol.

Cafodd enw Mr Edwards ei ddatgelu gan ei wraig Vicky Flind fel y cyflwynydd dan sylw, gan ddweud ei fod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty.

Dywedodd yr heddlu bryd hynny nad oedden nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y gyfraith wedi ei thorri. 

Dywedodd cyfreithwyr Huw Edwards wrth The Sunday Times nad oedd modd iddo ymateb i honiadau disail.

Mr Edwards oedd y cyflwynydd newyddion oedd yn cael ei dalu fwyaf yn y gorfforaeth, gan dderbyn rhwng £435,000-£439,999 yn y flwyddyn 2022/23.

Fe gyflwynodd Mr Edwards raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y  Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.

Cyhoeddodd farwolaeth y Frenhines Elizabeth II ar y BBC, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.