Newyddion S4C

Dyn o Brydain wedi ei anafu yn dilyn ymosodiad gan siarc

27/04/2024
Ynys Tobago

Mae dyn 64 oed o Brydain wedi ei anafu mewn ymosodiad gan siarc oddi ar ynys Tobago yn y Caribî.

Yn ôl swyddogion ar yr ynys, roedd Peter Smith o Berkhamsted yn Swydd Hertford, wedi derbyn triniaeth yn dilyn anafiadau difrifol i’w fraich, coes a stumog.

Dywedodd y swyddog fod y dyn tua 10 metr o’r lan ar arfordir gogledd orllewin yr ynys pan ymosododd y siarc tarw.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cefnogi teulu’r dyn.

Roedd y siarc tua wyth i 10 troedfedd o hyd yn ôl swyddogion.

Mewn datganiad dywedodd swyddog ar ran yr awdurdodau yn Tobago fod y dyn yn sefydlog ac yn gwneud yn dda ond fod ganddo “anafiadau arwyddocaol”.

Ychwanegodd fod y llywodraeth leol yn gweithio’n agos gydag Uwch Gomisiwn Prydain i gefnogi teulu’r dyn.

Llun: Facebook/Swyddfa Dwristiaeth Tobago

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.