Newyddion S4C

Chwilio am ddyn bregus 83 oed sydd ar goll yn ardal Criccieth

27/04/2024
Winston

Mae pryderon am ddiogelwch dyn bregus sydd ar goll yn ardal Criccieth.

Cafodd y dyn o'r enw Winston ei weld ddiwethaf mewn eiddo am 12:20 ddydd Gwener.

Dywed yr heddlu fod dementia arno ac mae pryder am ei les.

Roedd yn gwisgo siaced, pâr o jîns glas, cap, esgidiau rhedeg gwyn ac efallai sbectols haul pan welwyd o ddiwethaf.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q058188.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.