Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru i herio'r Eidal o flaen torf o 10,000

27/04/2024
Hannah Jones

Bydd Cymru yn dod â'u hymgyrch Chwe Gwlad i ben yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn o flaen torf o bron i 10,000.

Nid yw Cymru wedi ennill un o'u gemau hyd yma, ac mae'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi dweud bod "rhaid i Gymru ennill."

"Mae gennym gyfle gwych yma yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn i orffen y bencampwriaeth ar nodyn positif," meddai.

"Mae rhaid i ni ennill, mae mor syml â hynny. Dyna rydym ni wedi bod yn trafod yr wythnos hon.

"Mae mor syml â sut allen ni ennill un gêm o rygbi a gobeithio gallwn ni gwneud hynny ddydd Sadwrn."

Enillodd Cymru 36-10 yn erbyn yr Eidalwyr yn y bencampwriaeth y llynedd.

Os yw Cymru am sicrhau'r pumed safle, ma angen i'r crysau cochion ennill gyda phwynt bonws ac mae angen i'r Eidal beidio ag hawlio pwynt bonws hefyd. 

Ond maen nhw hefyd angen dibynnu ar Iwerddon i golli yn erbyn yr Alban heb bwynt bonws.

'Cyfnod anodd'

Mae capten Cymru, Hannah Jones wedi dweud bydd y dorf yn gymorth mawr iddynt wrth geisio sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae bron i 10,000 o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer yr ornest, y dorf fwyaf yn hanes rygbi merched Cymru.

“Mae’r cefnogwyr wir wedi aros gyda ni ac mae hynny wedi bod mor bwysig i ni,” meddai'r canolwr.

“Dyma pryd rydyn ni eu hangen fwyaf, pan rydyn ni angen eu cefnogaeth oherwydd mae hwn yn gyfnod anodd.

“Mae colli yn ein brifo ni ac rydyn ni’n benderfynol o wneud ein gorau yn erbyn Yr Eidal y penwythnos hwn, i ni ein hunain, ond hefyd i’n cefnogwyr ffyddlon.

“Mae mor galonogol gweld y merched ifanc yn y dorf, clywed y lleisiau yn ystod ein gemau a’u gweld yn aros yn y standiau wedyn i’n cefnogi ni, waeth beth yw’r canlyniad.

“Rydyn ni’n gwybod bod y cefnogwyr reit y tu ôl i ni bob cam o’r ffordd ac mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ni.”

Dyma garfan Cymru:

Jenny Hesketh; Lisa Neumann, Hannah Jones (captwn), Hannah Bluck, Carys Cox; Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Abbie Fleming, Alisha Butchers, Alex Callender, Georgia Evans

Eilyddion: Kelsey Jones, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Niamh Terry, Nel Metcalfe

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.