Enwi dau drên newydd ar ôl cyd-berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam
Mae dau drên newydd yng Nghymru wedi cael eu henwi ar ôl dinasoedd genedigol perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Fe gafodd y 'Robin Goch Philadelphia' a ‘Draig Goch Vancouver’ eu dadorchuddio ddydd Sadwrn gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, cyn y gêm ar y Cae Ras yn erbyn Stockport.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, y bwriad oedd cydnabod y gwaith a'r effaith gadarnhaol gan y perchnogion ar yr ardal.
'Gwefr go iawn yn Wrecsam'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething: "Mae wedi bod yn wych bod yn Wrecsam heddiw a gweld dau o’r ychwanegiadau diweddaraf at stoc Trafnidiaeth Cymru, rhan o’n buddsoddiad o £800m i wella dibynadwyedd a chysur trenau.
"Mae yna wefr go iawn yn Wrecsam y dyddiau yma. Mae Rob a Ryan wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gymuned ac mae’n wych eu bod yn cael eu cydnabod gyda’r trenau newydd, ac rwy’n siŵr bydd pob cefnogwr Wrecsam eisiau teithio ar y trenau newydd mor fuan a phosib."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi Wrecsam, ei glwb pêl-droed gwych a'r rhanbarth ehangach ar lwyfan byd-eang. Rwy'n falch iawn ein bod yn cydnabod hyn drwy enwi dau o'n trenau newydd sbon, a wnaed yng Nghymru, i’w anrhydeddu."
Dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price: "Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn defnyddio ein gwasanaethau'n gyson ac mae'n amlwg cymaint mae perchnogion y clwb wedi cyfrannu'n gadarnhaol i'r ardal."