Newyddion S4C

Beth yn union y mae Comisiynwyr yr Heddlu'n ei wneud?

28/04/2024
Heddlu

Gydag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ar y gweill ddydd Iau nesaf, beth yn union yw rôl y Comisiynwyr Heddlu yn ein cymunedau, a pham maen nhw’n cael eu hethol? 

Fe gafodd y Comisiynwyr cyntaf eu hethol yng Nghymru a’r rhan fwyaf o Loegr yn 2012 dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog David Cameron, gan gymryd lle awdurdodau’r heddlu oedd yn gyfrifol am y gwaith ynghynt. 

Y nod ar y pryd oedd sicrhau fod lluoedd yr heddlu yn fwy gweledol i’w cymunedau lleol, gan sicrhau eu bod hefyd yn fwy atebol i drigolion a’u diogelwch. 

Mae’r etholiadau yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, ac fe fydd y rhai diweddaraf yn cael eu cynnal ar ddydd Iau 2 Mai. 

Ond, beth yn union y mae'r Comisiynwyr yn ei wneud? 

Rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd yw sicrhau bod y llu y maen nhw’n gyfrifol amdano – boed hynny’n Heddlu’r Gogledd, Heddlu’r De, Heddlu Gwent neu Heddlu Dyfed-Powys, yng Nghymru – yn gweithredu’n effeithlon. 

Ond nid yw’r Comisiynwyr yn ymyrryd yn y gwaith o reoli’r lluoedd yn uniongyrchol, ond yn hytrach, nhw sydd yn gyfrifol am gynorthwyo’r gwaith hwnnw. 

Mae gofyn ar Gomisiynwyr i dyngu llw pan maent yn cael eu hethol, gan ddweud y byddant yn ddiduedd wrth wneud penderfyniadau. 

Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd dri brif rôl, gan gynnwys:

  • penodi'r prif gwnstabl, a'u diswyddo os oes angen,
  • gosod y gyllideb ar gyfer ei llu,
  • nodi blaenoriaethau’r awdurdodau plismona lleol. 

Mae’r Comisiynydd hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar gyfran y dreth cyngor sy’n cael ei neilltuo i gyllid yr heddlu.

Sut ydw i’n pleidleisio?

Am y tro cyntaf erioed eleni, bydd angen i unigolion fynd a dogfen ID i’r blychau pleidleisio er mwyn medru pleidleisio. 

Bydd angen un o’r dogfennau canlynol er mwyn pleidleisio ddydd Iau: pasbort Prydeinig, trwydded yrru, cerdyn teithio 60 oed a throsodd, cerdyn teithio person anabl, neu gerdyn sy’n profi oedran (cerdyn PASS). 

Fe ddaw’r newidiadau eleni fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022 sydd yn nodi bod rhaid i unigolyn fynd a dogfen adnabod gyda nhw i’r blychau pleidleisio er mwyn medru gwneud hyn.

Faint o Gomisiynwyr sydd yn bodoli? 

Mae ‘na 41 o Gomisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Comisiynwyr ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys. 

Mae ymgeiswyr ar gyfer pedair o’r prif bleidiau yng Nghymru -  Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur. 

Ar hyn o bryd, y Blaid Lafur sydd â’r mwyafrif o Gomisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru – sef Andy Dunbobbin yn y gogledd, Jeff Cuthbert yng Ngwent ac Alun Michael yn y de. 

Dafydd Llywelyn o Plaid Cymru yw Comisiynydd presennol Heddlu Dyfed-Powys. 

Mae Jeff Cuthbert ac Alun Michael ill dau wedi cyhoeddi y byddant yn camu i lawr ar gyfer yr etholiad eleni, felly mi fydd o leiaf dau o Gomisiynwyr newydd yng Nghymru. 

Pwy yw’r ymgeiswyr eleni? 

Heddlu Gogledd Cymru

Andy Dunbobbin, Llafur Cymru

Ann Griffith, Plaid Cymru

Brian Jones, Ceidwadwyr Cymru

David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Heddlu Dyfed-Powys 

Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymru

Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru

Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru

Heddlu Gwent

Donna Cushing, Plaid Cymru

Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymru

Jane Mudd, Llafur Cymru

Heddlu De Cymru

Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

George Carroll, Ceidwadwyr Cymru

Dennis Clarke, Plaid Cymru

Emma Wools, Llafur Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.