Newyddion S4C

Sylfaenydd #MeToo yn 'barod' i weithredu wedi'r penderfyniad i wrthdroi un o euogfarnau Harvey Weinstein

26/04/2024
Tarana Burke/Harvey Weinstein

Mae sylfaenydd mudiad #MeToo, Tarana Burke, wedi dweud ei bod yn “barod” i weithredu wedi’r penderfyniad i wrthdroi un o euogfarnau Harvey Weinstein am dreisio. 

Dywedodd yr ymgyrchydd 50 oed nad oedd penderfyniad Llys Apeliadau Efrog Newydd yn ergyd i’r mudiad, ond yn hytrach yn dangos bod angen gweithredu o'r newydd.

“Roedd nifer o bobl, nifer o oroeswyr, yn ogystal â’r rhai sy’n caru ac yn cefnogi goroeswyr wedi meddwl bod y dyfarniad gwreiddiol hwnnw’n golygu y byddai newid, ei fod yn nodi gwahaniaeth yn y ffordd yr oedd y system gyfiawnder hon yn mynd i symud a gweithredu," meddai.

“A dwi’n meddwl roedden ni’n teimlo ein bod ni ar drywydd i weld gwahaniaeth yn yr Unol Daleithiau. Ac mae'r foment hon bellach yn gwneud i ni deimlo fel ein bod ni'n anghywir. 

“Felly beth mae hyn yn ei olygu i fudiad #MeToo?” gofynnodd. 

“Dwi am i chi glywed hyn. Nid yw hyn yn ergyd i’r mudiad. Mae’n galw am newid. Ac rydym yn barod i ateb y galw hwnnw."

Fe ddaw ei sylwadau wedi i lys yn Efrog Newydd wrthdroi un o euogfarnau’r cyn- gynhyrchydd ffilmiau 72 oed ar y sail nad oedd wedi derbyn achos teg ar y pryd, gan ddweud bod unigoilion wedi eu galw i roi tystiolaeth fel rhan o'r achos pan nad oedd eu honiadau nhw eu hunain yn rhan o'r achos.

'Bradychu'

Mae’r penderfyniad wedi bod yn destun beirniadaeth yn Hollywood ac mae’r actores Ashley Judd, oedd yn un o’r cyntaf i wneud honiadau yn erbyn Weinstein gan siarad yn gyhoeddus yn ei erbyn, wedi ei disgrifio fel “brad sefydliadol.” 

Roedd seren y ffilm Double Jeopardy wedi dweud fod system gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn bradychu goroeswyr trais rhywiol a bod angen gweithredu “y tu fawn a thu allan” i’r systemau rheiny er mwyn gweld newid. 

Dywedodd yr actores Mira Sorvino, oedd eisoes wedi gwneud honiadau yn erbyn Weinstein, bod “arswyd” arni wedi’r penderfyniad. 

Dywedodd y fodel a’r actores Cara Delevingne ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn “torri ei chalon.”

Mae Harvey Weinstein yn y carchar ar hyn o bryd wedi iddo dderbyn dedfryd o 23 o flynyddoedd am droseddau treisio ac ymosodiadau rhyw.

Ni fydd y datblygiad diweddaraf o Efrog Newydd yn newid ei sefyllfa gan ei fod yn parhau yn y carchar am achos arall o dreisio ag ymosod yn rhywiol, gan dderbyn dedfryd o 16 mlynedd dan glo yn yr achos hwnnw.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg, dywedodd cyfreithiwr Weinstein, Arthur Aidala, fod dyfarniad y Llys Apêl yn “ddiwrnod gwych i America”.

“Efallai ei fod yn swnio fel gor-ddweud ond mae'n wir. Mae’r dyfarniad cyfreithiol heddiw yn ddiwrnod gwych i America oherwydd mae’n rhoi’r ffydd ynom fod yna system gyfiawnder,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.