Oriel y Senedd i groesawu ymwelwyr unwaith eto
Mae’r Senedd wedi cyhoeddi y bydd modd i’r cyhoedd ymweld â’r Oriel am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig.
Caewyd drysau’r Oriel ym mis Mawrth 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Mae modd i aelodau’r cyhoedd wylio trafodion byw, gan gynnwys cwestiynau i’r Prif Weinidog o’r Oriel Gyhoeddus.
Bydd y Senedd ar agor i ymwelwyr sydd wedi archebu tocynnau o flaen llaw yn unig.
Bydd modd archebu rhain trwy wefan y Senedd o ddydd Mawrth 29 Mehefin, gyda’r cyfarfodydd yn digwydd pob prynhawn dydd Mawrth a Mercher.
Gall y cyhoedd wylio Aelodau Senedd Cymru yn craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru unwaith eto, gan gynnwys sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog gyda Mark Drakeford.
Ers dechrau’r pandemig, mae cyfarfodydd y Senedd yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid, sy’n golygu mai oddeutu 20 o Aelodau sydd yn y Siambr ar yr un pryd, tra bod y 40 Aelod arall yn ymuno dros Zoom.
Dywed y Senedd y bydd y broses o ailagor i’r cyhoedd yn cael ei adolygu yn “ofalus”, yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.