Newyddion S4C

Dau athro a disgybl a gafodd eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman wedi gadael yr ysbyty

25/04/2024
Ysgol Dyffryn Aman

Mae tri a ddioddefodd anafiadau trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher wedi gadael yr ysbyty, meddai’r heddlu.

Mae merch yn ei harddegau yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Cafodd dau athro a disgybl yn ei harddegau eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau trywanu ar ôl y digwyddiad am 11.20 ddydd Mercher.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau mewn cynhadledd i'r wasg am 18.00 yr un diwrnod nad oedd yr anafiadau yn rai oedd yn peryglu eu bywydau.

Cafodd un o'r athrawon, Fiona Elias, ei henwi gan lefarydd ar ran y Prif Weinidog Rishi Sunak brynhawn Iau. Liz Hopkin, athrawes anghenion arbennig, yw enw'r ail athrawes yn ôl adroddiadau.

"Mae’r tri dioddefwr bellach wedi’u rhyddhau o’r ysbyty, ar ôl cael triniaeth am anafiadau â chyllell," meddai Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau.

Dywedodd Uwcharolygydd Sir Gaerfyrddin Ross Evans: “Fel y gellir disgwyl gyda digwyddiad mor ddifrifol â hyn, bydd presenoldeb heddlu yn parhau yn yr ysgol trwy gydol y dydd heddiw.

“Bydd swyddogion yn y lleoliad yn chwilio am dystiolaeth i gynorthwyo’r ymchwiliad, tra bydd timau arbenigol eraill yn dadansoddi unrhyw wybodaeth a gyflwynir trwy ein tudalen we bwrpasol.

“Rydym yn deall maint y pryder yn y gymuned wrth i bobl geisio prosesu’r digwyddiad. Rydym yn annog unrhyw un yr effeithiwyd arno gan ddigwyddiadau ddoe i geisio cefnogaeth, ac i beidio â rhannu unrhyw fideos, lluniau neu wybodaeth a allai achosi mwy o ofid i ddisgyblion neu rieni’r ysgol.

“Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ac asiantaethau eraill wrth iddynt ddarparu cymorth i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiadau ddoe.”

Image
Fiona Elias
Fiona Elias

'Dewr'

Fiona Elias, athrawes drama a Chymraeg yn yr ysgol, a phennaeth Blwyddyn 7, yw un o'r bobl sydd wedi ei hanafu.

Dywedodd ei thad John Owen wrth bapur newydd y Times fod ganddi "anafiadau arwynebol".

Mae llefarydd swyddogol y Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cofio ati hi ag eraill fu yn y fan a'r lle yn ystod y trywanu.

“Fe wnaeth y Prif Weinidog ymateb i hyn ddoe ac roedd yn amlwg wedi ei syfrdanu gan y newyddion ac mae ei feddyliau gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys pennaeth Blwyddyn 7 Fiona Elias a anafwyd yn ystod y digwyddiad," meddai.

“Hoffai’r Prif Weinidog hefyd ailadrodd canmoliaeth y prifathro James Durbridge i’r staff a’r myfyrwyr am ymateb mor bwyllog, ac mewn rhai achosion yn ddewr.

"Roedden nhw'n amgylchiadau a fyddai wedi bod yn hynod frawychus a hoffai ddiolch i'r heddlu a’r gwasanaethau brys am eu hymateb hefyd.”

Mewn datganiad brynhawn Iau, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod Heddlu Dyfed Powys yn debygol o ddod â'u hymchwiliad i ben yn yr ysgol erbyn nos Iau.

Ychwanegodd y datganiad: "Gan gydnabod yr amser sydd ei angen i baratoi'r adeilad i'r disgyblion ddychwelyd, mae'r ysgol, gyda chefnogaeth y Cyngor Sir, wedi penderfynu cau'r ysgol i ddisgyblion yfory (dydd Gwener 26 Ebrill). Bydd gwersi ar gael ar-lein."

Fe fydd athrawon a staff yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener i baratoi'r adeilad, gyda'r bwriad y bydd y disgyblion yn dychwelyd ddydd Llun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.