Newyddion S4C

Argymhelliad i gau dau safle Ambiwlans Awyr yn cael ei gymeradwyo

24/04/2024

Argymhelliad i gau dau safle Ambiwlans Awyr yn cael ei gymeradwyo

"Clywed sŵn yr hofrennydd yna'n dod yn y pellter, jyst yn codi, codi dy spirits di."

Ddeng mlynedd nôl cafodd Rhys Lewis anaf newidiodd ei fywyd. Nath coeden ddisgyn arno mewn dyffryn anghysbell. Roedd gwaith yr ambiwlans awyr yn hanfodol.

"O'r alwad yn mynd fewn, roedd yr hofrennydd efo ni o fewn 12 munud.

"Mae hwnna'n amser anhygoel."

Faint o amser byddai ambiwlans arferol cerbyd ar y ffordd wedi cymryd i gyrraedd chi?

"Mi oedd ambiwlans ar y ffordd hefyd a mi gymerodd honna awr a hanner. Dw i'n credu fysa hi 'di bod yn lot mwy o gamble os fysa'r hofrennydd ddim wedi dod o gwbl.

"Mae ardaloedd gwledig fel 'dan ni yn yn fan'ma, fi'n meddwl yn mynd i gael eu hanghofio."

Mae prif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cynnal adolygiad i'r gwasanaeth brys ac argyfyngau gyda'r nod o gyflwyno gwelliannau a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu o ganolfannau'r Trallwng a Chaernarfon. Yn ôl yr adolygiad byddai cau'r ddwy ganolfan ac agor un newydd yn agos i'r A55 yn gwella'r gwasanaeth.

Mewn cyfarfod o gydbwyllgor y bore 'ma nath y mwyafrif gymeradwyo'r newid. Ond fe wnaeth Bwrdd Iechyd Powys hi'n glir nad oedden nhw o blaid y newid.

Ers misoedd, mae pobl yma yn y canolbarth wedi bod yn brwydro'n arw i gadw'r ambiwlans awyr yn y ganolfan yma yn y Trallwng, yn ogystal â'r cerbydau ymateb brys.

Dros 30,000 o bobl yn arwyddo deiseb i gadw'r ganolfan yma'n agored yn y Trallwng ond yn dilyn y penderfyniad y bore 'ma fe fydd y ganolfan yn y Trallwng a'r un yn Gaernarfon yn cau yn 2026.

Mewn ardaloedd gwledig mae sawl un yn teimlo fel pe bai nhw'n cael eu hanghofio. Mae ymgyrchwyr yn cwestiynu a oedd y broses yn deg.

"Y ffaith bod nhw'n newid y data, newid y dadleuon, ond yn dod a'r un canlyniad pob tro. Felly, mae hynna'n awgrymu fod y canlyniad sy'n arwain y broses a nid fod e'n hollol ddilychwin ac yn wrthrychol a casglu barn go iawn."

" 'Dy'r awyren ddim yn mynd i fyny oni bai am yr arian maen nhw'n cael yn gyhoeddus. Be sy'n mynd i ddigwydd rŵan? Mae pobl ddim yn mynd i roi, a felly mi fyddan nhw'n eu colled."

Yn ôl y corff sy'n cynrychioli cleifion yng Nghymru, prin oedd y manylion i'r cyhoedd ynglŷn â'r gwasanaeth newydd cyn y penderfyniad.

"Mae'n bwysig bod rhai pobl ddim yn cael gwasanaeth sy'n waeth ar ôl i'r newidiadau hyn ddod mewn.

"Ni'n deall be ni 'di clywed, bod e'n mynd i fod yn well i bobl. Bydd y gwasanaeth yn gallu hedfan drwy'r nos ond dydyn ni ddim yn teimlo ar hyn o bryd bod digon o fanylion gyda pobl."

Yn ôl prif gomisiynydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fydd 'na ddim newidiadau tan fydd y gwasanaeth newydd wedi datblygu.

Gwaith elusen Ambiwlans Awyr Cymru nawr fydd dod o hyd i safle newydd i'r ganolfan yn y gogledd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.