Newyddion S4C

Llifogydd Llanfairfechan: Gofid bod codi mur i’w hatal yn annigonol

ITV Cymru 24/04/2024
Llun: ITV Cymru

Mae cymuned yng Ngogledd Cymru yn poeni am lifogydd pellach a difrod i’w cartrefi, wedi i donnau 50 troedfedd godi’n uwch na mur y môr fis Ebrill eleni. 

Mae'r llifogydd wedi codi cwestiynau difrifol i’r bobl ar y promenâd Fictorianaidd gyferbyn a'r mur y nglŷn â sut allen nhw stopio’r difrod rhag digwydd eto. 

Fe wnaeth Margaret Evans wynebu misoedd o drafferthion ar ôl i’w selar fod dan ddŵr.

Dywedodd: “Ro’n ni’n trïo rhoi pethau wrth y giât i’w stopio ac yna roedd e’n dod lawr fan hyn. Ro’n ni’n rhoi pethau wrth y drws cefn ac yna, cyn ichi sylweddoli, roedd yr holl le dan ddŵr.”

Image
Margaret
Margaret Evans (Llun: ITV Cymru)

Cyn i’r stom daro ar 9 Ebrill, un o’r pynciau llosg yng nghymuned Llanfairfechan oedd cynlluniau Cyngor Sir Conwy i wario mwy na miliwn o bunnoedd ar godi mur y môr yn uwch. 

Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar gynyddu’r mur rhwng 200mm a 500mm mewn uchder ar draws rhan 725 metr o hyd. 

Dywedodd Cyngor Sir Conwy y byddai’n edrych ar yr hyn wnaeth ddigwydd ac adolygu’r cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno er mwyn ystyried unrhyw welliannau posib. 

Fe wnaeth y cyngor hefyd argymell i “drigolion a pherchnogion busnesau drefnu mesurau atal llifogydd os y’n nhw’n meddwl bod yna risg".

Image
Leena
Leena Farhat, cynghorydd tref Llanfairfechan (Llun: ITV Cymru)

Dywedodd cynghorydd tref Llanfairfechan, Leena Farhat, “nad cynyddu uchder mur y môr yw'r unig ddatrysiad.”

“Mae cynyddu uchder y wal yn gyfan gwbl yn un ateb ac fe fyddai’n datrys rhai problemau, ond fydd o ddim yn datrys y problemau i gyd.

“Gyda’r storm wnaethom ni weld yn ddiweddar, fyddai ddim wedi datrys y broblem honno. 

"Roedd hi’n storm rhy fawr ac roedd y tonnau’n rhy fawr. Yr hyn ry’n ni angen ei weld yw mwy o strategaethau atal lleol ar gyfer pobl fesul tŷ neu fesul busnes.”

Image
Gary Hill
Gary Hill (Llun: ITV Cymru)

Roedd trigolyn arall, Gary Hill, hefyd yn flin gyda’r sefyllfa. Mae o wedi adnewyddu ei dŷ er mwyn ei werthu, ond wedi gweld ei selar dan ddŵr. 

Dywedodd: “Ry’n ni bendant angen llifddorau ar y promenâd. Gallwn ni arbed arian - anghofiwch am wastraffu arian. 

"Dwi’n teimlo’n gryf y byddai gwarchod tai pobl, mewn ffordd fyddai’n arbed arian yn yr hir dymor, yn fwy buddiol na gwario miliynau o bunnoedd ar fur sydd ddim yn mynd i weithio.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn gwario mwy nag erioed o'r blaen ar waith er mwyn atal llifogydd.

Prif lun: Chris Owen Photography

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.