Pêl-droed: Cymru i herio Gibraltar mewn gêm gyfeillgar ym Mhortiwgal
Bydd Cymru yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn ogystal â rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 yn yr Algarve yr haf yma.
Fe fydd dynion Rob Page yn wynebu Gibraltar mewn gêm gyfeillgar yn Estádio Algarve ym Mhortiwgal ar 6 Mehefin.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r timau wynebu ei gilydd ers buddugoliaeth Cymru 4-0 ar Y Cae Ras yn Wrecsam fis Hydref diwethaf.
Bydd y crysau cochion yn gobeithio am fuddugoliaeth arall eleni, gyda’r rheolwr Rob Page yn trin y gêm fel dechrau paratoadau Cymru ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Medi, pan fydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro, a Thwrci.
Wedi’r gêm yn Estádio Algarve, bydd Cymru'n teithio i Trnava i wynebu Slofacia yn Stadiwm Anton Malatinkský ar 9 Mehefin.
Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau gwybodaeth am docynnau ar gyfer y ddwy gêm maes o law.
Llun: Asiantaeth Huw Evans