UDA yn cymeradwyo pecyn ariannol enfawr
Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi cymeradwyo pecyn ariannol gwerth $95bn biliwn sy'n cynnwys cymorth milwrol i Wcráin, Israel a Taiwan.
Fe bleidleisiodd y Senedd o blaid y pecyn nos Fawrth ar ôl misoedd o fethu a dod i gytundeb yn y Gyngres.
Mae'r Pentagon wedi dweud y bydd arfau yn cael eu hanfon i Wcráin "o fewn dyddiau".
Dywedodd yr Arlywydd Biden y bydd y ddeddfwriaeth yn "gwneud ein cenedl a'r byd yn fwy diogel".
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys $26.4 biliwn i gefnogi Israel ac i roi cymorth dyngarol i Gaza.
Mae $8.1 biliwn wedi ei glustnodi ar gyfer cynghreiriaid yn Asia, gan gynnwys Taiwan i "wrthsefyll China gomiwnyddol".
Yn ogystal mae yna adnoddau ar gael allai olygu gwahardd TikTok yn America.