Eisteddfod yr Urdd 2026 i gael ei chynnal ar Gae Sioe Môn
Eisteddfod yr Urdd 2026 i gael ei chynnal ar Gae Sioe Môn
Mae Maes Sioe Môn wedi arfer croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn i'r sioe amaethyddol.
Ond ymhen dwy flynedd bydd 'na ymwelwyr gwahanol ar y maes wrth i bobl heidio yma i fwynhau Eisteddfod yr Urdd.
Mae 'na groeso i weld yr Eisteddfod yn dychwelyd ond bydd angen i bobl yr ynys godi £380,000 fel rhan o'r gronfa leol.
"Mae'n tipyn o swm a 'dan ni'n ymwybodol o'r heriau economaidd sy'n wynebu pawb.
"Ni'n ffyddiog byddwn ni'n cyrraedd y targed hwnnw.
"Mae'r Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal pwyllgorau apêl ledled yr ynys."
Ac mae 'na dipyn o gyffro yn yr ysgol agosaf i'r safle.
Mae plant Ysgol y Ffridd wrth eu boddau y bydd yr ŵyl ar ei stepen drws.
"Dw i'n meddwl bod e'n lle bendigedig i fod oherwydd mae digon o le i barcio ac i bawb mwynhau a digon o le i bawb ddod dros Gymru i gyd."
"Dw di cyffroi lot achos mae plant de Cymru yn gallu dod i'r ŵyl i actio, canu a bob math o bethau."
"Ysgol y Ffridd ydy'r ysgol agosaf i Gae Sioe Môn.
"Croesi bysedd 'dan ni'n gallu cystadlu hefyd."
Mae cymunedau Cymraeg Môn fel gweddill Cymru dan bwysau mawr ond wrth i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal eto ar yr ynys mae 'na obaith y bydd hynny yn rhoi hwb i ddiwylliant a Chymreictod yr ynys.
"Un o brif nodau'r Urdd yw bod yr Urdd i bawb a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymryd rhan yn y Gymraeg tu hwnt i'r ysgol a'r 'stafell ddosbarth.
"Mae mor bwysig bod yr Eisteddfod yn teithio i gymunedau ar draws Cymru.
"Bydd pawb yn cael y cyfle i gael yr Urdd ar ei stepen drws.
"Mae'n gwneud gwahaniaeth i faint o Gymraeg sy'n cael ei defnyddio yn yr ardal."
"Mae'r Urdd 'di gwneud lot o waith yn ddiweddar i dystiolaethu'r effaith bositif mae'n cael ar yr economi leol a phobl ifanc yn ffynnu a'u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae hynny'n gryfder ar yr ynys.
"Ni eisiau dod a mwy efo ni ar y daith ieithyddol hefyd."
Ymhen dwy flynedd felly bydd Môn unwaith eto yn goch, gwyn a gwyrdd.
Cyn hynny bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Maldwyn eleni ac yn Nghastell-nedd Port Talbot y flwyddyn nesa.