Newyddion S4C

Taflegryn o Israel wedi taro Iran, yn ôl adroddiadau

23/04/2024

Taflegryn o Israel wedi taro Iran, yn ôl adroddiadau

Fflachiadau yn goleuo'r nos yn Isfahan neithiwr.

Taflegryn o Israel ddeffrodd bobl yr ardal yng nghanol Iran ac hefyd y system amddiffyn awyr.

Y fideo amatur yma yn honni bod dim niwed i safle niwclear y ddinas.

Dyw Israel heb wneud unrhyw sylw cyhoeddus am yr ymosodiad honedig.

Ond roedd disgwyl iddyn nhw ymateb i'r ymosodiad yma gan Iran ddydd Sadwrn diwethaf pan ga'th dros 300 dronau a thaflegrau eu tanio atyn nhw.

"Be fysa Prydain yn wneud os oedd rhywun yn gyrru 300 o ddrons a ballistic missiles atynt?

"Dylai pawb ofyn y cwestiwn yna yn yr Unol Daleithiau, ym Mhrydain a Ffrainc.

"A fase rhywun yn dweud "Peidiwch a gwneud dim byd amdano fo."

"Be da chi'n meddwl basa'n digwydd?

Dyna'r cwestiwn dylen ni ofyn.

"'Sneb eisiau rhyfel a dydy Israel yn bendant ddim eisiau rhyfel.

"Dw i ddim yn meddwl bod Iran eisiau'r rhyfel yma a'r byd yn bendant ddim eisiau rhyfel."

Yn yr Eidal, mae cynrychiolwyr gwledydd yr G7 wedi bod yn cyfarfod.

Ac yn galw am leihau tensiynau yn y Dwyrain Canol.

"What the G7 is focused on and it's reflected in our statement and in our conversation is our work to de-escalate tensions.

"To de-escalate from any potential conflict."

Ar deledu'r wladwriaeth yn Iran mae pwyslais fod bywyd bob dydd yn parhau yn Isfahan.

Yn ôl un sydd wedi teithio yno sawl gwaith i hyfforddi newyddiadurwyr mae hynny'n arwydd nad oes awydd i barhau a'r ymosodiadau diweddar.

"Maen nhw wedi ymateb yn y ffordd buaswn i wedi disgwyl.

"Bron a bod yn pw-pwan yr ymosodiad er mwyn dangos bod y ddelwedd ohonyn nhw'n gryf a bod nhw'n gallu gwrthsefyll y diafol yma y gelyn, sef Israel.

Falle bod yr ymateb yn awgrymu nad yw Iran yn mynd i ymateb?

"Dyna'n union dw i'n meddwl fydd canlyniad hyn oll.

"Byddan nhw 'di penderfynu bod nhw wedi gwneud safbwynt a bod gynnon nhw ddelwedd ryngwladol.

"Fel o'n i'n gweud, mae'r bennod yma wedi dod i ben."

Brynhawn 'ma, roedd protestiadau cyhoeddus yn erbyn Israel yn Tehran.

Mae'n bosib fod y bennod ddiweddaraf o densiwn 'di dod i ben.

Ond mae stori'r gwrthdaro rhwng y ddau elyn yma yn siŵr o barhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.