Image
Ymgyrch fawr i achub Jock y pŵdl
23/04/2024
Cafodd criw tân Gorllewin Abertawe eu galw i ardal Parkmill yn y ddinas yn gynnar fore Mawrth, am fod pŵdl tair oed yn gaeth o dan y ddaear mewn cartref yno.
Oherwydd fod y safle yn gyfyng ac am nad oedd modd dod o hyd i union leoliad y ci, cafodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru eu galw i gynorthwyo.
Aeth y criwiau ati i dynnu llawer iawn o slabiau patio a phridd yng nghefn y cartref, er mwyn cael mynediad a dechrau cloddio twnnel o dan y gegin.
Llwyddodd y criwiau i achub Jock, y pŵdl du, ac mae e bellach yn ôl gyda'i berchennog.
Yr ymgyrch i achub Jock: Lluniau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Image
Image