Newyddion S4C

Undeb gweithwyr dur yn galw am dro pedol gan gwmni Tata

24/04/2024
Tata Steel Port Talbot

Mae undeb gweithwyr dur wedi galw am dro pedol gan gwmni Tata gan ddweud y dylai ymrwymo i “gynllun arall” yn hytrach na chau ffwrneisi chwyth ar y safle. 

Fe ddaw galwadau Community yn dilyn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan gwmni ymgynghori Syndex.

Mae'r ddogfen honno yn honni fod gwaith dur Tata yn gwneud “yr hyn sy’n rhad” ac nid “yr hyn sydd orau.”

Yn ôl yr adroddiad, byddai cael gwared a thua 2,800 o swyddi trwy gau ffwrneisi chwyth a newid i ffordd fwy ecogyfeillgar o gynhyrchu dur yn “llawn risg.”

Mae’r adroddiad yn cefnogi galwadau Community am ‘gynllun aml-undeb’, a fydd yn “diogelu dyfodol y gwaith dur ym Mhort Talbot,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Roy Rickhouse.  

Roedd swyddogion gwaith dur Tata wedi cwrdd ag aelodau undebau gwaith dur yr wythnos diwethaf er mwyn trafod eu cynlluniau ail strwythuro at y dyfodol. 

Dywedodd Mr Rickhouse fod cynlluniau gwaith dur Tata yn “gwbl ddi-hid.”

“Mi fydden nhw'n peryglu ein diogelwch cenedlaethol drwy gael gwared â gallu sylfaenol Prydain i gynhyrchu dur, a byddai’n ddinistriol i gymunedau dur yn Ne Cymru a thu hwnt,” meddai. 

Mae gwaith dur Tata eisoes wedi dweud ei fod yn agored i drafod gydag undebau, gan wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda gwaith dur Tata am ymateb i alwadau mwyaf diweddar Community.

Cefnogaeth

Mae'r cynllun aml-undeb wedi’i gymeradwyo gan wleidyddion lleol, gan gynnwys Stephen Kinnock sef yr AS dros Aberafan yn ogystal â Jessica Morden, sef AS Dwyrain Casnewydd sydd yn etholaeth Gwaith Dur Llanwern. 

Dywedodd Stephen Kinnock mai’r cynllun aml-undeb yw’r unig ffordd o sicrhau dyfodol y gwaith dur ym Mhort Talbot. 

“Byddai cynlluniau gwrthgynhyrchiol Tata yn golygu allforio swyddi o Bort Talbot i India, gwlad lle mae gan weithfeydd dur ôl troed carbon llawer uwch,” meddai. 

Ychwanegodd Mr Rickhouse y bydd yr undebau yn parhau i frwydro yn erbyn cynlluniau Tata, a’i fod yn annog gweithwyr i bleidleisio o blaid parhau i weithredu’n ddiwydiannol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.