Dod o hyd i gorff yn Afon Taf wrth chwilio am ddyn yng Nghaerdydd
23/04/2024
Mae'r heddlu sydd yn chwilio am ddyn sydd ar goll yng Nghaerdydd wedi dod o hyd i gorff yn Afon Taf.
Fe welwyd Connor Walker-Smith ddiwethaf am 02:00 ar 17 Ebrill ar Ffordd Penfro yn y brifddinas.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Mr Walker-Smith wedi cael gwybod am y datblygiad.
Mae'r heddlu wedi anfon eu cydymdeimladau at y teulu a ffrindiau Mr Walker-Smith.
Llun: Heddlu De Cymru