Newyddion S4C

Angharad Mair am godi ymwybyddiaeth o gyflwr ar y coluddyn ar ôl llawdriniaeth frys

23/04/2024

Angharad Mair am godi ymwybyddiaeth o gyflwr ar y coluddyn ar ôl llawdriniaeth frys

Mae’r cyflwynydd Angharad Mair wedi dweud bod angen codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyflwr ar y coluddyn wedi iddi dderbyn llawdriniaeth ar frys – a hithau wedi cael ei hanfon adre’ o’r ysbyty'r diwrnod cynt. 

Yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C, fe gafodd Angharad Mair llawdriniaeth frys ar ôl dioddef o goluddyn wedi troelli ym mis Chwefror.

Ac yn ôl un arbenigwr, fe allai’r cyflwr fod yn fater o argyfwng a dylai cael ei drin yn “syth” heb unrhyw oedi. 

Ond wedi iddi gael ei hanfon gartref ar ôl derbyn “profion clir” yn yr ysbyty – diwrnod yn unig cyn iddi dderbyn ei llawdriniaeth – mae’r cyflwynydd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â symptomau’r cyflwr. 

Wrth siarad ar raglen Prynhawn Da ddydd Mawrth, dywedodd: “Fi ddim yn credu bod ni’n clywed rhyw lawer am os oes poen stumog gwirioneddol wael gyda chi, a chi’n gwybod bod e’n wahanol. 

“Falle bod e’n appendix, falle bod e’n twisted bowel

“Mae e’n gallu bod yn argyfwng. Felly os oes rhywbeth fel 'na arnoch chi, cer i weld y doctor."

'Argyfwng'

Fe gafodd Angharad Mair ei hafon adre’ o’r ysbyty wedi iddi dderbyn profion gwaed a phrawf ultrasound cadarnhaol y diwrnod cyn ei llawdriniaeth. 

Ond wedi iddi ddeffro’r bore wedyn, a’i phoen “difrifol” wedi lledaenu, fe aeth hi’n ôl i’w meddyg teulu. 

Cafodd ei gyrru yn ôl i’r ysbyty er mwyn cael sgan CT, a hynny’n hanfodol er mwyn dod o hyd i unrhyw broblemau gyda’r coluddyn, esboniodd Dr Llinos Roberts. 

“Yn achos Angharad, oeddech chi di cael profion gwaed y diwrnod cynt ac oedd hwnna’n glir," meddai.

“Oedd yr ultrasound yn glir ond tydi ultrasound ddim yn brawf addas ar gyfer edrych ar y coluddyn. Mae’n dda ar gyfer edrych ar organau eraill o fewn yr abdomen: yr afu, y bledren, ond ddim y coluddyn. 

“Felly bydda CT sgan yn llawer mwy addas ar gyfer adnabod os ydy’r coluddyn wedi troi."

'Sioc'

Cafodd y gyflwynwraig wybod y byddai angen iddi dderbyn llawdriniaeth o fewn dwy awr, a hynny wedi bod yn “tipyn o sioc,” meddai. 

Dywedodd bod ei ffitrwydd wedi bod yn gymorth iddi wrth iddi barhau i wella, ond bod ei golwg wedi achosi dryswch hefyd. 

“Chwarae teg, mae rhaid i fi ddweud mai’r doctor ‘nath anfon fi adre'r noson gynta’ - cyn bod fi’n mynd i gael y llawdriniaeth - dath e mewn i ‘ngweld i a wedodd e: ‘Ti’n cofio fi? Fi halodd ti gartre’.

“A ‘nath a dweud, ga'i ymddiheuro, dwi mor sori. Wedodd e: ‘Ti’n edrych mor iach’ – ag wrth gwrs fi yn iach sydd yn help mawr wrth wella achos fi ‘di gwella yn reit dda mewn gwirionedd.” 

Bellach mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i raglen Heno am y tro cyntaf “mewn wythnosau” nos Fercher, meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.