Newyddion S4C

'Dysgu o gamgymeriad’: Rhybudd i wisgo helmed wedi damwain beic cwad

23/04/2024
Beca Glyn

Mae dynes sy’n ffermio yn Ysbyty Ifan, Sir Conwy wedi rhybuddio eraill i wisgo helmed, bum mlynedd ar ôl torri ei phenglog wedi damwain beic cwad.

Dywedodd Beca Glyn sy’n 30 oed ei bod hi’n lwcus ond yn parhau i fyw gyda rhai o ganlyniadau'r ddamwain honno ym mis Mawrth 2018.

Digwyddodd y ddamwain pan oedd Beca yn helpu ei thad i hel y defaid ar fferm y teulu yn Sir Conwy.

Gwyrodd yn sydyn yn rhy gyflym, gan droi’r beic cwad a laniodd ar ei phen a chan nad oedd yn gwisgo helmed, fe darodd ei phen ar y ffordd darmac.

Cafodd Beca ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, ac ar ôl naw mis o orffwys, ffisiotherapi ac adsefydlu, dychwelodd i ffermio, ar ôl colli tymor wyna cyfan a rhoi pwysau gwaith ychwanegol ar ei rhieni, Glyn ac Eleri.

“Collais fy synnwyr o flas ac arogl, rwy'n dioddef o feigryn ac angen cymryd tabledi i roi egni i mi ond rwy'n ddiolchgar iawn na wnes i daro rhan o'r ymennydd sy'n rheoli madruddyn y cefn neu fy nghof,” meddai.

“Nid yw’r gallu i flasu ac arogli yn ddim o'i gymharu â'r gallu i gerdded neu gofio.''

‘Gall ddigwydd i unrhyw un’ 

Mae’r ddamwain honno wedi ei gwneud hi’n hynod ofalus o ran diogelwch ar y fferm, a hefyd lles pawb ar y fferm, gan gynnwys ei thad.

“Roedd gyda mi pan gefais y ddamwain ac mewn sioc, does neb eisiau gweld un o'u plant yn anymwybodol ac wedi'i anafu,'' meddai Beca.

“Rydym bellach yn fwy ymwybodol o weithio ar uchder, trin gwartheg, yr holl dasgau hynny ar y fferm. 

“Fydda i ddim yn helpu gyda thasg nawr os nad ydw i'n meddwl ei bod hi'n ddiogel, felly mae'n rhaid i Dad wrando arna i, fel arall, mae'n gwybod na fydd yn cael unrhyw help!''

Mae'n debyg taw mân anafiadau fyddai Beca wedi’u goddef pe bai’n gwisgo helmed, meddai.

“Rydym yn dysgu o'n camgymeriadau ac rydw i'n gwybod y byddwn i fwy na thebyg ond wedi brifo fy ngwddf a chael rhywfaint o gleisiau.''

Dychwelodd ei gallu i flasu ac arogli'r haf diwethaf, ond yn anffodus, dros dro oedd hynny. “Mae wedi dod yn ôl unwaith, efallai y daw eto,'' meddylia.

Fel Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae Beca eisiau cyflwyno’r neges ddiogelwch ar draws y diwydiant amaeth.

“Doeddwn i ddim yn rhywun a oedd yn ddi-hid ar y fferm nac yn gyrru cyn y ddamwain, felly os gall ddigwydd i rywun fel fi, gall ddigwydd i unrhyw un,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.