Alun Wyn Jones allan o daith y Llewod wedi anaf
26/06/2021
Mae taith capten y Llewod, Alun Wyn Jones yn eu hymgyrch yn Ne Affrica wedi dod i ben cyn iddi ddechrau.
Daeth cadarnhad gan y prif hyfforddwr Warren Gatland, yn dilyn gêm gyfeillgar rhwng y Llewod a Japan brynhawn dydd Sadwrn, fod Jones wedi cael anaf difrifol i’w ysgwydd.
Cafodd Jones ei dynnu ffwrdd yn dilyn yr anaf, saith o funudau i mewn i'r gêm yn stadiwm Murrayfield, Caeredin.
Roedd buddugoliaeth i'r Llewod, gyda mantais o 28 i 10 dros Japan - ond er gwaetha'r llwyddiant, maen nhw wedi profi ergyd enfawr yn colli eu capten cyn y daith dyngedfennol.