Newyddion S4C

Honiad fod prifathro o Hen Golwyn yn gyrru plentyn yn ei gar er mwyn ei cham-drin

23/04/2024

Honiad fod prifathro o Hen Golwyn yn gyrru plentyn yn ei gar er mwyn ei cham-drin

Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid

Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth fod prifathro o Hen Golwyn wedi dweud wrth ferch ifanc "mae'n iawn" wrth iddo ei cham-drin yn rhywiol. 

Mae Neil Foden, 66 oed, yn wynebu 20 o gyhuddiadau sydd yn cynnwys camdriniaeth rywiol honedig o blant, a bod â lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant.

Mae'n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn sydd yn ymwneud â phump o blant.

Wrth agor ail ddiwrnod yr achos yn erbyn y prifathro mi gyflwynodd bargyfreithiwr yr erlyniad John Philpotts dystiolaeth fideo gan un o’r dioddefwyr honedig: Plentyn A.

Mi gafodd ei arestio ar ôl i un o’r merched ddangos llun oedd ar ei ffôn - i oedolyn – llun ohoni hi a Neil Foden. Hefyd, sgrinluniau o sgyrsiau rhyngddyn nhw oedd yn cyfeirio at weithred o natur rywiol.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, clywodd y rheithgor fod Neil Foden yn cael cyfarfodydd cyson gyda Plentyn A. “Os oeddwn i’n ddigalon” meddai “Roedd o’n deud y baswn i’n cael mynd ato.”

'Mewn perthynas'

Clywodd y llys bod Plentyn A wedi dweud wrth oedolyn ei bod wedi bod mewn "perthynas" gyda Mr Foden am tua chwe mis.

Yn ôl Plentyn A, roedd y cyfarfodydd yn digwydd unwaith neu ddwywaith yr wythnos ar y dechrau, ac yna’n ddyddiol. 

Clywodd y rheithgor y byddai Neil Foden yn ei chofleidio, ond ar ôl ychydig o amser fe ddechreuodd y ddau gusanu ac mi fyddai yntau yn ei chyffwrdd yn rhywiol.

“’Chydig ddyddiau ar ôl i ni gusanu fe roddodd ei ddwylo i lawr fy nhrwsus, felly byddai’r negeseuon testun yn deud petha fel, be oedd o am ei wneud i mi.”

Gofynnodd y swyddog heddlu pryd oedd y tro cynta i Neil Foden ddefnyddio ei fysedd yn rhywiol efo’r ferch. “O’n i yn nerfus iawn” meddai, “doeddwn i ddim wedi cael bachgen yn gwneud hyn i mi o’r blaen”

Dywedodd Plentyn A ei bod wedi ceisio atal Mr Foden rhag rhoi ei law o dan ei dillad isaf ond fe "ddaliodd ati"

“Mi roth o ei ddwylo lawr fy pants.

“Doeddwn i ddim yn gyfforddus” ond honnir fod Mr Foden wedi dweud wrthi “Mi fydd popeth yn iawn”.

“Mi nath o gario ymlaen os ’di hynny'n gwneud sens, felly mi nesh i adael iddo fo neud.”

Mi ddywedodd Plentyn A fod y weithgaredd rywiol yma wedi digwydd yn gyson.

Gofynnodd y swyddog: “Sawl gwaith ddigwyddod hyn?”

Atebodd hi: “Ar ôl hynny, trwy’r amser.”

Negeseuon Whatsapp

Mi fyddai’r ddau’n cysylltu drwy e-bost ar y dechrau yna trwy WhatsApp, a mi ddywedodd Plentyn A ei bod yn cael gwared â’r holl negeseuon ar ôl i Neil Foden ddweud wrthi hi am eu dileu.

Yn y cyfweliad gyda’r heddlu dywedodd y ferch fod Neil Foden wedi ei rhybuddio na ddylai hi fyth ddweud beth yr oedden nhw’n ei wneud gyda'i gilydd a bod yn rhaid iddi gadw’r gyfrinach “i’r bedd”

Mae’r erlyniad yn dweud bod Neil Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau â phlant o fewn ysgolion yn y sir.

Wrth wrando ar dystiolaeth fideo Plentyn A, clywodd y llys hi’n dweud yn ei chyflweliad fod Neil Foden yn chwilio am leoliadau diarffordd, er mwyn iddo allu ei gyrru hi yno a threulio amser yn ei chwmni.

'Pigo i fyny yn y car'

Eglurodd fod ganddi hi a Neil Foden leoliad arbennig lle y byddai o yn ei “phigo i fyny” yn ei gar.

Wrth ddisgrifio’r tro cynta iddyn nhw fynd i leoliad diarffordd, honnodd y ferch iddyn nhw gusanu yn gynta, cyn iddo fo blygu yn nes ati a chyflawni gweithred rywiol. “Mi barodd am tua awr” meddai.

Yn gwrando ar y dystiolaeth yn ei erbyn, eisteddodd Neil Foden yn y doc heb fawr o fynegiant ar ei wyneb.

Ar un achlysur, dywedodd y ferch ifanc fod Neil Foden wedi ei gyrru i leoliad oedd yn “lle mwdlyd”. Roedden nhw'n cusanu yng nghefn y car ac fe gyffyrddodd â hi'n rhywiol, meddai. Eglurodd ei fod yn pwyso o gwmpas ei chanol ac yna’n “gwthio’n galetach”, a’i fod yn “gafael ynddi a ddim yn stopio”.

“Roedd o’n gwenu ond yn deud dim byd… ’o’n i isio mynd adra,” meddai.

Clywodd y llys hefyd, fod Neil Foden yn arfer dweud ei bod yn “ferch ddeniadol”, ac mi fyddai o hefyd yn holi am ei pherthnasoedd rhywiol, ac ei fod yn siarad llawer iawn am ei hun, meddai.

Dwedodd wrthi ei fod yn ei charu ac y byddai wrth ei fodd petai’n gallu “edrych arni yn noeth am oriau.”

Wrth roi tystiolaeth o'r tu ôl i sgrîn brynhawn Mawrth, dywedodd Plentyn A wrth y llys nad oedd hi’n siwr a oedd hi’n caru Neil Foden ar y pryd. 

Gofynnodd yr amddiffyniad a oedd hi’n caru Neil Foden?

“Dwi ddim yn siwr sut oeddwn i’n teimlo” atebodd.

“Oedd ganddoch chi crush arno?"

“Na” atebodd. “Doeddwn i ddim yn ei gasau o. Doeddwn i ddim yn gwybod sut o’n i’n teimlo.

“Mi oeddwn i’n ddryslyd”.

Croesholi

Fe gyhuddodd yr amddiffyniad hi o ddweud celwydd ynglyn â’r berthynas oedd rhyngddyn nhw. 

“Dwi’n derbyn fod Neil Foden wedi eich cofleidio, a gafael yn eich llaw” meddai'r bargyfreithiwr Duncan Bould KC.

“Ond ddigwyddodd dim byd rhywiol.”

Atebodd y ferch ifanc: “Do, fe waeth o ddigwydd.”

O bryd i’w gilydd yn ystod dros awr a 40 munud o gael ei chroesholi roedd yna ychydig funudau o oedi gan fod Plentyn A yn crio.

Clywodd y llys fod y ferch ifanc wedi anfon lluniau ohoni ei hun i Neil Foden.

Dywedodd Plentyn A mai ei syniad hi oedd eu hafnon y tro cyntaf, ond ar ôl hynny “roedd o’n gofyn amdanyn nhw.”

Ar ôl i fargyfreithiwr Neil Foden orffen croesholi Plentyn A, gofynnodd John Philppots ar ran yr erlyniad sut oedd y ferch yn teimlo am ddatgelu yr hyn oedd wedi digwydd i’r awdurdodau.

“O’ ni ofn.” meddai.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.