Newyddion S4C

Vaughan Gething yn gwrthod galwad am ymchwiliad annibynnol i’r ras i’w ethol

ITV Cymru 23/04/2024
Vaughan Gething a Carwyn Jones

Mae’r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi gwrthod galwad am ymchwiliad annibynol i’r ras i’w ethol.

Daw wrth iddo gyhoeddi y bydd un o’i ragflaenwyr yn arwain adolygiad mewnol i’r broses o’i ethol yn arweinydd Llafur Cymru. 

Mae wedi ysgrifennu at arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Andrew RT Davies yn dweud "na fydd yn comisiynu ymchwiliad annibynnol na unrhyw gyngor pellach ar y mater".

Daw wrth iddo ddweud wrth rhaglen wleidyddol ITV Cymru Wales, Sharp End, ei fod wedi gofyn i Carwyn Jones gadeirio’r adolygiad mewnol. 

Bydd yr adolygiad yn cynnwys archwiliad i gyllid yr ymgyrchoedd a fu'n rhan o'r ras arweinyddol wedi i'r gwrthbleidiau godi cwestiynau am roddion i ymgyrch Vaughan Gething.

“Dwi wedi bod yn rhan o gyfarfod positif a chytûn gyda’r Pwyllgor Gweithredol Cymreig dros y penwythnos, lle ry’n ni wedi gwireddu fy ymroddiad i gael adolygiad teg o’r broses ethol,” meddai Mr Gething. 

“Cyllid ymgyrchoedd yw un o’r materion i gytuno arnyn nhw. Ac o fewn hynny, mae yna bobl wnaeth gymryd rhan yn yr ymgyrch, ar fwy nag un un ochr.

“Mae Carwyn Jones, ar fy nghais i, wedi cytuno i gadeirio’r adolygiad. Ac mi fydd yn adrodd i Bwyllgor Gweithredol Llafur Cymru ym mis Medi.”

‘Annibynnol’

Daw’r adolygiad wedi i gwestiynau godi ynglŷn ag ymgyrch Mr Gething i olynu Mark Drakeford yn swydd arweinydd Llafur Cymru. 

Yn ystod y ras, fe ddaeth i’r amlwg bod ei ymgyrch wedi derbyn rhodd o £200,000 gan y Dauson Environmental Group. 

Mae cyfarwyddwr y grŵp eisoes wedi cael ei ddyfarnu’n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Vaughan Gething wedi dweud yn gyson “nad oedd rheolau wedi cael eu torri” wrth dderbyn y rhodd. 

Fodd bynnag, mae arweinwyr yr wrthblaid yn y Senedd wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r “cwestiynau sydd heb eu hateb” ynghylch y rhoddion. 

Wrth ymateb i’r adolygiad, dywedodd Andrew RT Davies bod Llafur Cymru yn “marcio eu gwaith cartref eu hunain”.

Dywedodd: “Mae’r rhain yn gwestiynau uniongyrchol i’w hateb ynglŷn â’r ffordd mae gwrthdaro buddiannau dros roddion Gething yn cael ei weld mewn perthynas â’r Cod Gweinidogol, ac nid ydyn nhw yn gwestiynau i’r Blaid Lafur yn unig.

“Mae’n rhaid i Gething nawr dderbyn mai ymchwiliad annibynnol, llawn yw’r unig ffordd i ateb y pryderon dros gyllid ei ymgyrch.”

'Cwestiynau'

Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth fe gyfeiriodd Plaid Cymru at adroddiadau bod y Dauson Environmental Group wedi derbyn benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, cyn rhoi rhodd i ymgyrch Vaughan Gething.

"Nid yw'r cwestiynau hyn yn mynd i ffwrdd, ydyn nhw?" meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

"Rydym wedi cael y taliadau enfawr i'w ymgyrch arweinyddiaeth—£200,000. Rydym wedi cael ffynhonnell yr arian hwnnw, dyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol. 

"Yna rydyn ni wedi cael gwybod fod y cwmni hwnnw mewn dyled i Lywodraeth y Prif Weinidog ei hun."

Dywedodd Vaughan Gething bod Banc Datblygu Cymru yn gweithredu yn annibynnol o Lywodraeth Cymru.

"Rwy'n gyfforddus iawn y gallai ac y dylai Banc Datblygu Cymru redeg ei fusnes ei hun heb ymyrraeth gweinidogol mewn dewisiadau unigol o ran benthyciadau a buddsoddiadau," meddai.

Llun gan PA/  Ben Birchall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.