Newyddion S4C

'Moment hanesyddol': Mesur Rwanda yn pasio fel cyfraith

23/04/2024
rishi.png

Mae mesur Rwanda i anfon ceiswyr lloches i'r wlad wedi pasio fel cyfraith nos Lun.

Mae hyn yn golygu fod Rwanda yn cael ei hystyried fel gwlad ddiogel ac felly yn rhan allweddol o gynlluniau'r llywodraeth i anfon rhai ceiswyr lloches yno.

Bwriad y mesur yw anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda er mwyn i'w ceisiadau gael eu prosesu yno. Y nod yw lleihau ar y niferoedd sydd yn croesi'r sianel yn anghyfreithlon. 

Daw hyn wedi oriau o drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi nos Lun, gydag arglwyddi bellach yn penderfynu na fyddan nhw yn gwrthwynebu'r mesur. 

Mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei gwrthod gan Dŷ’r Arglwyddi dro ar ôl tro yn ystod y pedwar mis diwethaf, gydag Aelodau Seneddol hefyd yn gwrthod newidiadau sydd wedi eu cynnig.

Fe ddywedodd Mr Sunak mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun y byddai ef a’i lywodraeth yn “eistedd trwy’r nos” er mwyn sicrhau fod Mesur Rwanda yn cael ei basio.

Ychwanegodd y bydd yr hediad cyntaf i gludo ceiswyr lloches i Rwanda yn gadael yn ystod y 10-12 wythnos nesaf. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly fod pasio'r mesur yn "foment hanesyddol yn ein cynllun i atal y cychod."

Wedi i'r mesur gael ei basio gan yr Arglwyddi nos Lun, fe fydd y mesur bellach yn cael ei basio i'r Brenin Charles i'w gymeradwyo.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.