Newyddion S4C

Ellis Jenkins i ymddeol o chwarae rygbi ar ddiwedd y tymor

22/04/2024
Ellis Jenkins

Mae blaenasgellwr Cymru a Chaerdydd, Ellis Jenkins, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o chwarae rygbi ar ddiwedd y tymor.

Mae Jenkins, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 31 oed wythnos nesaf, wedi ennill 147 o gapiau dros Gaerdydd yn ogystal â gwneud 15 ymddangosiad i Gymru.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae Jenkins wedi gwneud y penderfyniad i "flaenoriaethu bywyd ar ôl rygbi" wedi iddo ddioddef o anaf i'w ben-glin yn 2018 a oedd bron â rhoi diwedd ar ei yrfa.

"Dywedais wrth Jockey [Matt Sherratt, prif hyfforddwr Caerdydd] ar ddechrau'r tymor mai dyma fyddai fy un olaf ar ôl 13 mlynedd," meddai Jenkins.

“Mae’n teimlo fel yr amser iawn. 

"Mae yna lawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau wedi bod trwy fy ngyrfa ac mae angen llawer o reolaeth ar fy mhen-glin o hyd, yn enwedig os ydw i'n chwarae wythnos ar ôl wythnos.

"Nid wyf bellach yn gallu hyfforddi'r ffordd yr hoffwn, sy'n rhwystredig."

'Balch'

Er gwaetha'r heriau, dywedodd Jenkins ei fod yn "falch" o'r hyn mae wedi'i gyflawni.

“Mae wedi bod yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol ond rydw i’n hynod falch o bopeth rydw i wedi’i gyflawni yn fy ngyrfa," meddai. 

"Yn enwedig wrth ddod yn ôl o anaf mor fawr i chwarae i Gaerdydd a Chymru eto."

Ond mae'n hapus gyda'i benderfyniad.

"Yr uchafbwyntiau yw pethau fel Bilbao, gemau darbi ac achlysuron Ewropeaidd ym Mharc yr Arfau, ennill fy nghap cyntaf a bod yn gapten ar Gymru, ond hefyd profiadau, teithio a chyfeillgarwch mae rygbi wedi rhoi i mi," meddai.

“Rwyf wedi bod yn ffodus ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar fy nhaith.

"Rwy'n edrych ymlaen at fwynhau rygbi o'r teras gyda chwrw, gwneud yr holl bethau na allwn eu gwneud fel chwaraewr a byw bywyd heini a gweithgar gyda fy nheulu ifanc."

Y gêm Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Caeredin brynhawn Sadwrn fydd ei gêm olaf ym Mharc yr Arfau, er bod tair gêm gynghrair arall wedi’u hamserlennu’r tymor hwn.

"Mae cael y cyfle i redeg allan ym Mharc yr Arfau Caerdydd un tro arall yn rhywbeth fydd yn golygu llawer iawn," meddai.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.