Gostyngiad yn nifer y palod ar Ynys Sgomer
Yn enwog fel un o nythfeydd mwyaf y DU, mae gostyngiad yn nifer y palod neu bwffinod ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro.
Mae cyfrifiad blynyddol i boblogaeth yr adar ar yr ynys wedi dangos cwymp yn y niferoedd. Eleni, cafodd 41,605 o balod eu cyfrif ar Ynys Sgomer, sydd rhwng 900 a 1,000 yn llai na phoblogaeth y llynedd.
Dywedodd Swyddog Ymweliadau Ynys Sgomer, Rob Knott: “Roedd y niferoedd y llynedd ar eu huchaf, felly dyw gostyngiad bach eleni ddim yn rhywbeth i boeni amdano, yn enwedig gyda’r tywydd gwael ry’n ni wedi’i gael dros yr wythnosau diwethaf.
“Ry’n ni ond wedi cael y cyfle i wneud un cyfrifiad, felly ry’n ni’n seilio hyn ar y rhif yna, lle byddem ni fel arfer eisiau iddo gael ei seilio ar ddau neu dri chyfrifiad.”
Ar wahân i gyfri’r pwffinod, mae’r tîm ar Ynys Sgomer yn croesawu dros 250 o ymwelwyr i’r ynys bob dydd, gyda 16 o bobl hefyd yn aros yn yr hostel bob nos. Mae hynny’n gyfanswm o fwy na 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Mae’r Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn gweithio ar brosiect i gyflwyno gwe gamerâu ar yr ynys gyda’r bwriad o sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y deunydd i weld yr amrywiaeth o adar a rhywogaethau sy’n byw yno.
Ychwanegodd Swyddog Codi Arian a Chyfathrebiadau Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Mae gennym ddau gamera, un ar y banc sy’n dangos yr holl fywyd gwyllt gwych sydd gennym. Felly, pwffinod, cwningod, gwylanod, adar y môr o bob lliw, siâp a llun.
“Mae hefyd gennym we gamera fydd yn dangos cylch bywyd yr aderyn drycin Manaw, sy’n aderyn y nos, nad yw llawer o ymwelwyr y dydd yn cael ei weld.”
Bydd y palod yn dechrau nythu dros yr wythnosau nesaf, gan fagu eu cywion ar yr ynys cyn iddyn nhw fagu plu o ddiwedd Gorffennaf.