Disgwyl adolygiad i’r polisi 20mya
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru gyflwyno adolygiad i'r polisi terfyn cyflymder 20mya.
Am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi i'r cabinet, bydd Ken Skates yn cyflwyno polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth, gan nodi ei flaenoriaethau.
Mae disgwyl iddo nodi mai " gwrando yw'r flaenoriaeth yn syth i'r Ysgrifennydd y Cabinet ar 20mya".
Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn "gweithio mewn partneriaeth gyda chynghorau er mwyn cael newid wedi'i dargedu yng ngweithrediad 20mya."
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Skates y bydd y llywodraeth yn “cywiro” ei chanllawiau ynglŷn â chyflwyno terfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd poblog.
Dywedodd Mr Skates fod “ffyrdd na ddylai fod wedi’u cynnwys” mewn sawl ardal, ac y dylai penderfyniadau terfyn cyflymder gael eu gadael i gymunedau lleol, heb i’r Llywodraeth eu gorfodi.
Daeth y terfyn cyflymder 20mya i rym ar ffyrdd ‘cyfyngedig’ drwy Gymru ym mis Medi 2023.
Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl, ac fe gafodd y terfyn cyflymder ym mwyafrif y ffyrdd yma ei ostwng o 30mya i 20mya.
Pryderon
Nod y polisi oedd gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Ond mae nifer wedi beirniadu’r newid yn chwyrn, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae mwy na 150 o arwyddion terfyn cyflymder 20mya wedi cael eu fandaleiddio ers i'r polisi ddod i rym.
Ac mae deiseb yn galw am ddileu’r polisi bellach wedi derbyn bron i 500,000 o lofnodion.
Dywedodd Mr Skates y bydd yna "newid sy’n mynd i’r afael â’r pryderon y mae llawer o bobl, gan gynnwys hanner miliwn o bobl a lofnododd y ddeiseb, wedi’u codi’n gyson".
“Y rhain yw: bod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer rhoi terfyn 20mya mewn ardaloedd lle mae ysgolion, ardaloedd adeiledig fel stadau tai, a thu allan i ysbytai ac yn y blaen, ond mewn llawer o ardaloedd, roedd ffyrdd na ddylai fod wedi’u cynnwys,” meddai.
“Rydyn ni wedi codi ein dwylo i ddweud ‘mae’n rhaid cywiro’r canllawiau’.
“Bydd hyn yn galluogi cynghorau i ddychwelyd y ffyrdd hynny nad ydynt yn briodol yn ôl.
“Mae i ba raddau bydd y newidiadau hyn yn radical yn dibynnu yn fawr ar yr hyn y mae pobl ei eisiau.”
Adolygiad 'yn sicr'
Mae rhai arweinyddion cynghorau eisoes wedi awgrymu bod adolygiad i’r polisi dadleuol ar y gweill.
Wrth siarad ar Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, y bydd adolygiad "yn sicr" yn digwydd yn y brifddinas.
“Gallaf ddweud yn sicr yn achos Caerdydd, y bydd adolygiad," meddai'r cynghorydd Llafur.
"Mae hwn yn bolisi rydyn ni wedi bod yn ei gyflwyno yng Nghaerdydd dros nifer o flynyddoedd.
"Pan ddaeth y gyfraith i rym ym mis Medi, dim ond 24 o strydoedd yn y ddinas newidiodd eu terfynau cyflymder.”
Pan ofynnwyd iddo a fydd unrhyw rai o’r strydoedd hyn yn newid o derfyn 20mya, ymatebodd Mr Thomas "hanner dwsin, o bosib”.
“Rwy’n meddwl ei fod yn iawn ein bod yn edrych ac yn gwrando. Ond yn gyffredinol, bydd y terfynau cyflymder yn aros fel ag y maen nhw.”
Ychwanegodd Mr Thomas ei fod yn croesawu'r "newid pwyslais" gan ei fod yn "dangos sut mae Vaughan Gething a Ken Skates eisiau bod yn Lywodraeth sy’n gwrando".
“Rwy’n meddwl bod yr wrthblaid wedi gwneud llawer o ffwdan dros y polisi hwn.
“Ond yn syml iawn, yr hyn y mae’r gyfraith yn ei wneud yw galluogi cynghorau lleol i osod terfyn 20mya fel y lleiafswm.
“Yma yng Nghaerdydd, dros yr wyth mlynedd diwethaf o gyflwyno 20mya mewn ward ar ôl ward ar ôl ward, roedd yn broses hir iawn i gyflawni hynny – ac mae’r gyfraith newydd yn dweud ‘dyna’r lleiafswm, os ydych chi eisiau cynyddu’r cyflymder, gallwch chi wneud hynny', ac mae'n rhaid ichi fynd trwy broses hir i gynyddu'r cyflymder."
“Dyna beth sydd i’w groesawu yn yr hyn y mae Ken Skates yn ei awgrymu nawr yw y bydd gan gynghorau’r pŵer hwnnw."