Y chwilio'n parhau am ddyn sydd ar goll yng Nghaerdydd
22/04/2024
Mae'r ymdrech i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll yng Nghaerdydd ers nifer o ddyddiau'n parhau.
Fe welwyd Connor Walker-Smith ddiwethaf am 02:00 ar 17 Ebrill ar Ffordd Penfro yn y brifddinas ac mae pryder am ei les.
Mae'r dyn 26 oed yn dod o ardal Treganna ac roedd yn gwisgo 'hoodie' du gydag ysgrifen wen ar ei flaen, trowsus du gyda streipen felen i lawr yr ochrau, ac esgidiau rhedeg du a gwyn pan welwyd ef ddiwethaf.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am leoliad Connor i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400123380.