Perchnogion tafarn yn osgoi carchar wedi i ddynes farw ar ôl syrthio
Mae perchnogion tafarn yn Sir Gaerfyrddin wedi osgoi dedfryd o garchar ar ôl i ddynes farw wedi iddi syrthio i'r seler.
Dioddefodd Olwen Collier, 69, anafiadau difrifol i'w phen ar ôl disgyn i seler tafarn y Stag and Pheasant ym mhentref Carmel ger Llanelli fis Ionawr 2023.
Roedd Ms Collier yn addurno ystafell yn y dafarn ar gyfer parti penblwydd ei merch.
Roedd perchnogion y dafarn, Philip a Tracy Hawkins, y ddau o Heol Llandeilo ym mhentref Carmel, eisoes wedi pledio'n euog i fethu â chyflawni dyletswydd iechyd a diogelwch cyffredinol i berson nad oedd yn weithiwr.
Yn Llys y Goron Abertawe brynhawn Llun, cafodd y ddau ddedfrydau gohiriedig o 18 wythnos o garchar, wedi'u gohirio am 12 mis.
Fe gafodd Mr Hawkins hefyd orchymyn i wneud 150 awr o waith di-dâl.
Fe gafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel “damwain angheuol yn aros i ddigwydd” gan y Barnwr Paul Thomas.
Yn ôl y Barnwr Thomas, roedd golau gwan, arwyddion gwael a chyfarwyddiadau aneglur wedi arwain Ms Collier tua chyfeiriad y seler, oedd heb ei chloi.
Syrthiodd i lawr y grisiau a bu farw’n ddiweddarach.
Wrth gyhoeddi ei ddedfryd, dywedodd y Barnwr Thomas ei fod yn sicr y byddai teulu Ms Collier yn dymuno i berchnogion y dafarn dreulio cyfnod o dan glo, gan ddisgrifio'r hyn ddigwyddodd fel "camgymeriad di-feddwl, gyda chanlyniadau trychinebus."
Ond ychwanegodd nad oedd o'r farn y byddai dedfryd o garchar yn briodol.