Newyddion S4C

Gwahardd weips gwlyb yng Nghymru erbyn canol 2026

22/04/2024
Weip gwlyb

Bydd weips gwlyb sy’n gynnwys plastig yn cael eu gwahardd yng Nghymru maes o law.

Mae disgwyl i’r gwaharddiad ddod i rym yng Nghymru erbyn Mehefin 2026.

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog y rhai sydd yn cynhyrchu y weips i ddechrau paratoi ar gyfer y newid.

“Rydym yn annog y diwydiant i ddechrau’r broses bontio nawr,” medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Fe ddaw’r cyhoeddiad ddydd Llun fel rhan o gytundeb ar y cyd gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Mae cyfnod o 18 mis wedi’i rhoi er mwyn galluogi'r cwmnïau sydd yn cynhyrchu'r weips gwlyb i wneud newidiadau fel eu bod yn defnyddio deunyddiau eraill.

Daw’r gwaharddiad wedi ymgynghoriad ar y cyd, a gafodd ei gynnal ledled y DU a ddaeth i ben ym mis Tachwedd y llynedd. 

Roedd “cefnogaeth ysgubol” ar gyfer cynigion i wahardd “nifer o gynhyrchion plastig untro,” gyda dros 85% o ymatebwyr o blaid y newid, meddai Huw Irranca Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

Ond mi fydd rhai eithriadau, gan gynnwys ar gyfer weips gwlyb sy’n gynnwys plastig at ddibenion diwydiannol a meddygol.

Y gobaith yw y bydd y gwaharddiad yn “cefnogi gwelliannau i’r amgylchedd,” ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn y pen draw, mae weips gwlyb yn torri i lawr yn ficro blastigau, sy'n niweidio ecosystemau ac yn cyfrannu at lygredd dŵr. Maent hefyd yn achosi sbwriel ar draethau.

Llun: Flickr / Abi Porter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.