Elfyn Evans yn cipio'r ail safle yn Rali Croatia
Fe orffennodd Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Croatia dros y penwythnos.
Ar ôl cyfnod o arwain y rali ddydd Sadwrn, roedd y Cymro yn yr ail safle cyn y cymal cyffro fore Sul, 6.4 eiliad y tu ôl i’r arweinydd, y Ffrancwr Sebastien Ogier.
Er ei ymdrechion yn y cymal hwnnw, ni lwyddodd i gau’r bwlch ar Ogier, gan orffen y ras 9.7 eiliad y tu ôl i’r enillydd yn y pen draw.
Dyna oedd y 100fed tro i Ogier, sydd yn ran o dîm Toyota Gazoo Racing gydag Evans, i orffen ar y podiwm yn ei yrfa.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1782026179005776354
Thierry Neuville o Wlad Belg cipiodd y drydydd safle, 36.1 eiliad y tu ôl i Ogier.
Ar ôl cipio ei drydydd podiwm allan o'r pedair rali agoriadol, dywedodd Evans: "Penwythnos cyffrous.
"Ddim yn hapus efo heddiw wrth gwrs, dim be 'sa ni 'di licio o gwbwl ond 'da ni yma yn y diwedd o leia.
"Dwi'n meddwl, 'be allai 'di bod', ond dyna fo, fel 'na ma'i."
Mae’r canlyniad yn golygu fod y gŵr o Ddolgellau yn parhau yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y gyrwyr wedi pedair rali, gyda Neuville yn arwain y ffordd.
Nesaf i’r gyrwyr bydd Rali Portiwgal ar benwythnos 9-12 Mai.