Newyddion S4C

David Brooks: 'Dim teimlad tebyg' i wisgo crys Cymru ar ôl derbyn triniaeth canser

Sgorio 21/04/2024

David Brooks: 'Dim teimlad tebyg' i wisgo crys Cymru ar ôl derbyn triniaeth canser

Mae David Brooks wedi dweud bod "dim teimlad tebyg" i wisgo'r crys coch wedi iddo chwarae i Gymru am y tro cyntaf ar ôl derbyn triniaeth am ganser.

Derbyniodd Brooks, sydd yn chwarae i glwb Southampton ar fenthyg o AFC Bournemouth, ddiagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II ym mis Hydref 2021.

Ar ôl cyfnod o dderbyn triniaeth, cyhoeddodd ym mis Mai 2022 ei fod yn rhydd o ganser.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei wlad ers y driniaeth ym mis Mehefin 2023 yn erbyn Armenia, moment oedd yn falch iawn ohono, meddai wrth Sgorio.

“Yn amlwg roedd adegau yn ystod y rehab oedd yn gwneud  mi feddwl, nid fy mod i wedi amau, ond chi yn meddwl ‘falle ni fyddai’n gallu gwneud hynny eto.’

“Pan ddaeth y cyfle i wisgo crys Cymru eto, yn amlwg roeddwn i’n falch iawn.

“Roedd fy nheulu i gyd wedi teithio lawr ar gyfer y gêm. Does dim gair gwahanol i’w ddisgrifio, roedd e jyst yn falchder.

“Mae’n rhywbeth gwahanol pan chi’n gwisgo crys Cymru.”

Iechyd yn 'hollbwysig'

Pan dderbyniodd Brooks y diagnosis yn 2021, roedd yn sioc fawr iddo.

Dywedodd ei fod wedi anghofio am bêl-droed yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda'i iechyd y peth oedd yn "hollbwysig".

“Pan chi’n derbyn y diagnosis, dydy pêl-droed yn golygu dim byd. Dwi’n meddwl, wrth edrych ar y darlun ehangach, eich iechyd sy’n hollbwysig.

“Dwi’n meddwl unwaith derbyniais y newyddion fod y canser wedi mynd a dywedodd nhw wrthaf, 'ti’n gallu mynd ar drywydd dy hun, ond ti’n gallu dychwelyd' (i bêl-droed)."

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod lle dderbyniodd triniaeth, mae Brooks yn dweud ei fod yn gwerthfawrogi ei daith i ddychwelyd i chwarae.

“Hwnna oedd yr unig beth yn fy meddwl, ac yn amlwg, yn gyntaf rhoi cit Bournemouth ymlaen ac wedyn ceisio dychwelyd i’r garfan ryngwladol hefyd.

“Does dim byd mewn bywyd sydd yn dod i chi os nad ydych chi wedi gweithio’n galed, dydy e ddim yn teimlo mor dda.

“Dwi’n meddwl bod y daith yn gwneud i bethau deimlo’n well pan dwi’n eistedd yma yn chwarae pêl-droed proffesiynol eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.