Newyddion S4C

Ymosodiad Sydney: Baban a gafodd ei hanafu wedi'i rhyddhau o'r ysbyty

21/04/2024
Ashlee Good

Mae merch fach a gafodd ei hanafu yn yr ymosodiad mewn canolfan siopa yn Sydney wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty.

Bydd merch naw mis oed Ashlee Good, a fu farw yn ei hamddiffyn, yn parhau i dderbyn gofal gan glinigwyr, meddai swyddog iechyd.

Cafodd y ferch lawdriniaeth yn Ysbyty Plant Sydney ar ôl dioddef anafiadau i'w brest a'i breichiau.

Cafodd chwech o bobl eu lladd yn yr ymosodiad yng nghanolfan siopa Westfield Bondi Junction, pump ohonyn nhw'n fenywod, ar 13 Ebrill.

Dechreuodd Joel Cauchi drywanu pobl cyn iddo gael ei saethu’n farw yn ddiweddarach gan yr heddlu.

Image
Gwylnos Sydney
Cafodd gwylnos ei chynnal ddydd Sul ar gyfer dioddefwyr yr ymosodiad

Roedd y ferch fach yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad, ynghyd â sawl un arall, lle cafodd ei symud o'r uned ofal dwys ddydd Mawrth.

Dywedodd swyddogion iechyd fod y symudiad o'r uned ofal dwys yn dangos bod ei chyflwr wedi mynd trwy “newid mawr a gwelliant sylweddol”.

Mae ymgyrch GoFundMe a sefydlwyd yn enw Ashlee Good wedi codi £347,500 ar gyfer ei merch.

“Mewn datblygiad cadarnhaol, gallaf gadarnhau bod y plentyn sydd wedi bod yn derbyn gofal yn Ysbyty Plant Sydney yn dilyn digwyddiadau trasig y penwythnos diwethaf yng Nghyffordd Bondi wedi’i ryddhau i fynd adref,” meddai Gweinidog Iechyd  talaith New South Wales, Ryan Park, ddydd Sul.

“Ar gais y teulu, rwy’n annog yn gryf ar y cyfryngau a’r gymuned i barchu eu hawl i breifatrwydd yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”

Roedd miloedd o bobl wedi ymuno â gwylnos olau cannwyll ar gyfer dioddefwyr yr ymosodiad yn ddiweddarach ddydd Sul.

Llun: Ayush Kumar / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.