Newyddion S4C

Awgrym o dro pedol ar bolisi 20mya mewn rhai mannau

20/04/2024

Awgrym o dro pedol ar bolisi 20mya mewn rhai mannau

Heblaw am brisiau ar y pwmp go brin bod unrhyw beth wedi achosi cymaint o drafod ymhlith modurwyr Cymru na'r terfyn cyflymder newydd ddaeth i rym fis Medi.

Mae'r gyrwyr yma yn Llanrwst wedi cael wyth mis i ddod i arfer efo fo. Felly, sut mae hi'n mynd?

" 'Dy o'm yn grêt ond be fedri di wneud? Fedri di'm gwneud dim byd arall."

"Dw i'n used to it rŵan. Mae o'n oce. Mae o'n saff, so."

"Dw i 'di arfer yn pentra fi'n hun. Mae hi bach yn wahanol pan ti'n dod i lefydd ti 'di arfer dod trwadd ar 30 neu ar 40."

"Mae o'n iawn mewn rhai llefydd yn ymyl ysgolion ac ysbytai ond ffyrdd eraill - na, dw i'm yn meddwl."

"Na, mae rhywun yn arfer efo fo rwan, yndy."

"Ddim yn ffan?"

Os ydy rhywun yn hwyr yn bore, nac'dw ond os ydy rhywun yn gwneud yn siwr bod o'n codi digon buan na, mae o'n iawn."

Mae 'na wrthwynebiad croch wedi bod i'r rheol newydd gyda 500,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn galw am gael gwared o'r terfyn 20 milltir yr awr.

Tan rŵan, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o lynu at y newid gan fynnu ei fod o'n gwneud ffyrdd yn fwy diogel ond ddoe, roedd yna awgrym o dro pedol gyda son am ganolbwyntio ar ardaloedd fel ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd.

"We do need to make sure 20 miles an hour is truly targeted in those places as we always promised it would be. We'll need to work exceptionally closely with our partners in local government, town and community councils and citizens in order to achieve that.

"Changes will be done with and for the communities that we all serve."

Mi gafodd £34 miliwn ei wario yn cyflwyno'r gyfraith newydd gyda'r terfyn 20 milltir yr awr yn cael ei osod ar 37% o ffyrdd Cymru.

"Dyle Llywodraeth Cymru wedi cael y polisi iawn yn y lle cynta yn lle newid e nawr, 'dyn ni'n gobeithio ond be sy 'di cael ei wneud wedi cael ei wneud.

"Y peth pwysig yw nawr bod ni'n cael cyflymder sy'n synhwyrol yn cymunedau ar draws Cymru."

Felly, be ydy'r farn ymhlith defnyddwyr y palmentydd?

"Fysa fo ella wedi cael ei dargedu efo ysbytai a - be ddeudoch chi?

"Ysgolion? A meithrinfeydd. Hwnnw ydy'r lle mwya peryglus. Mae 'na ambell i le dw i'n teimlo 'swn i'n medru gwneud 30 yn fan'ma - ond dyna ni."

"Mae'n siwr 'sa'n well, deud y gwir. Bysa.

"Ond 'sa neb yn sticio iddo fo eniwe. Os ydy rhywun yn gwneud 20, mae pawb yn pasio ti."

"Dw i'm yn meindio'r 20 mile an hour. 'Dan ni 'di arfer efo fo rŵan. Yn enwedig mewn trefi prysur fel'ma dw i'm yn meindio cael 20 mile an hour speed limit o gwbl."

"Dw i'n meddwl o gwmpas ysgolion a petha - ie, grêt ond dw i'n meddwl bod o'n achosi lot o issues mewn llefydd mwy prysur."

Mae disgwyl i'r Gweinidog Trafnidiaeth ddweud mwy am y polisi 20 milltir yr awr yr wythnos nesa.

Gyda'r wlad yn cyflymu at Etholiad Cyffredinol mi fydd yna lawer yn chwilio am arwyddion clir ganddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.