Newyddion S4C

20mya: Y Gweinidog Trafnidiaeth yn addo 'cywiro' penderfyniadau dros y terfyn cyflymder

20/04/2024
Ken Skates 20mya

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn “cywiro” ei chanllawiau ynglŷn â chyflwyno terfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd adeiledig.

Mewn cyfweliad gyda North Wales Live, dywedodd Ken Skates mewn sawl ardal fod “ffyrdd na ddylai fod wedi’u cynnwys”.

Dywedodd ei fod eisiau i’r penderfyniadau terfyn cyflymder gael eu gadael i gymunedau lleol, heb i’r Llywodraeth eu gorfodi.

“Fe fydd yna newid sy’n mynd i’r afael â’r pryderon y mae llawer o bobl, gan gynnwys hanner miliwn o bobl a lofnododd y ddeiseb, wedi’u codi’n gyson,” meddai.

“Y rhain yw; bod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer rhoi terfyn 20mya mewn ardaloedd lle mae ysgolion, ardaloedd adeiledig fel stadau tai, a thu allan i ysbytai ac yn y blaen, ond mewn llawer o ardaloedd, roedd ffyrdd na ddylai fod wedi’u cynnwys.

“Rydyn ni wedi codi ein dwylo i ddweud ‘mae’n rhaid cywiro’r canllawiau’.

“Bydd hyn yn galluogi cynghorau i ddychwelyd y ffyrdd hynny nad ydynt yn briodol yn ôl.

“Mae i ba raddau bydd y newidiadau hyn yn radical yn dibynnu yn fawr ar yr hyn y mae pobl ei eisiau.”

‘Gwrando’

Dywedodd Mr Skates, a gafodd ei benodi’n weinidog trafnidiaeth fis diwethaf yng Nghabinet cyntaf y Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething, y bydd y Llywodraeth yn hytrach yn gwrando ar gymunedau ac yn gweithredu’r newidiadau y maen nhw eu heisiau.

“Rydw i eisiau i gymunedau fod yn berchen ar benderfyniadau terfyn cyflymder yn hytrach na’u gorfodi nhw,” meddai.

“Dyna pam mae’r rhaglen genedlaethol yma o wrando yn mynd i fod mor bwysig. Rydym am wrando ar yr hyn mae pobl yn eu cymunedau am ei weld yn digwydd mewn gwirionedd, ac yna gweithredu’r newid yn ôl llais y cyhoedd.

“Dw i’n dychmygu mewn rhai rhannau o Gymru y byddwn ni’n gweld nifer cymharol fach o newidiadau ac mewn eraill fe fyddwn ni’n gweld tipyn mwy, ond fyddwn ni ddim yn gwybod i ba raddau y bydd y newid tan i ni gwblhau’r ymarfer hwnnw, yn gwrando ar bobl ac yn creu cofnod o’r ffyrdd yr hoffai pobl eu gweld yn dychwelyd i 30mya.”

Cafodd y polisi ei gyflwyno ym mis Medi’r llynedd o dan y prif weinidog blaenorol Mark Drakeford, gyda’r addewid y byddai terfynau cyflymder is yn arwain at lai o wrthdrawiadau a phobl yn cael eu hanafu.

Mae wedi gweld gwrthwynebiad chwyrn gan y Ceidwadwyr yn y Senedd, sydd wedi ei nodi’n “wastraff amser ac adnoddau”, ac fe gyfaddefodd Mr Drakeford y gallai mwy fod wedi’i wneud i “baratoi’r tir” ar gyfer y polisi, er iddo ei hamddiffyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn glir mai ei flaenoriaeth gyntaf ar 20mya yw gwrando.

“I gefnogi hyn, yn yr wythnosau nesaf bydd yn ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, busnesau a chymunedau ledled Cymru.”

Bydd Mr Skates yn rhoi diweddariad ddydd Mawrth wrth roi datganiad ar y mater.

‘Afresymol’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: “Mae dros chwe mis wedi mynd heibio ers i Blaid Cymru gyflwyno gwelliant yn y Senedd, ac ennill y bleidlais, gan ennill ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adolygu effaith terfynau newydd ac i rymuso awdurdodau lleol i wneud mwy o eithriadau.

“Rwy’n cefnogi’r egwyddor o barthau 20mya eang, ond mae’n amlwg iddo gael ei weithredu’n wael iawn ac yn anghyson, gyda gormod o ffyrdd yn newid i 20mya mewn mannau lle’r oedd yn teimlo’n afresymol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn awr a rhoi trefn ar bethau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i sicrhau bod terfynau’n cael eu hadolygu’n gywir, a bod 20mya afresymol yn cael ei ddileu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.