Anaf arall i Taulupe Faletau yn ei gêm gyntaf ers Cwpan y Byd
Fe wnaeth Taulupe Faletau ddioddef anaf yn ei gêm gyntaf ers Cwpan y Byd wrth chwarae i Gaerdydd nos Wener.
Fe ddaeth Faletau oddi ar y cae wedi 30 munud oherwydd anaf, gyda Mackenzie Martin yn dod ymlaen yn ei le.
Cafodd ei dywys oddi ar y cae gan ffisiotherapydd y clwb, gan gydio yn ei fraich.
Dyna oedd ymddangosiad cyntaf Faletau, 33 oed, ers iddo dorri ei fraich wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Georgia fis Hydref y llynedd.
Ar ôl y gêm, lle wnaeth Gaerdydd colli yn ddadleuol yn erbyn Ulster, dywedodd rheolwr y clwb, Matt Sherratt nad yw'n gwybod difrifoldeb yr anaf hyd yma.
"Mae'n cael ei asesu ar ôl cael ergyd ar ei ysgwydd a dydyn ni ddim yn gwybod difrifoldeb yr anaf eto.
"Nid yw'r un anaf a rhai blaenorol ydy fy nealltwriaeth i. Croesi bysedd, nid yw'n rhy ddrwg oherwydd ei fod wedi rhoi llawer o ymdrech i mewn dros y chwech neu saith mis diwethaf i ddod yn ôl.
"Rydw i'n gutted dros Toby. Rwy'n siŵr y bydd y bechgyn i gyd o'i gwmpas."
Llun: BBC