Newyddion S4C

Israel: Gweinidog tramor Iran yn diystyru ymosodiad dronau a gafodd eu defnyddio 'fel teganau plant'

20/04/2024
Hossein Amir-Abdollahian

Mae Iran wedi dweud nad ydy cyfraniad Israel mewn ymosodiad ar y wlad ddydd Gwener wedi'i sefydlu eto ac wedi diystyru'r dronau a ddefnyddiwyd "fel teganau plant."

Honnodd y gweinidog tramor Hossein Amir-Abdollahian i'r dronau cael eu danfon i'r awyr o diriogaeth Iran a hedfan ychydig gannoedd o fetrau yn unig cyn cael eu saethu i lawr.

Nid yw Israel wedi gwneud sylw ond y gred ydy mai nhw sydd y tu ôl i'r streic sy'n targedu maes awyr a safle niwclear ger Isfahan.

Dywedodd yr Unol Daleithiau wrth gyfarfod G7 fod Israel wedi dweud wrthynt am yr ymosodiad "ar y funud olaf".

Roedd Israel wedi bod yn pwyso a mesur sut i ymateb i ymosodiad drôn a thaflegrau digynsail Iran ar Israel y penwythnos diwethaf – gyda gwledydd y gorllewin yn annog iddynt atal rhag ymateb drwy ymosod.

“Nid yw wedi’i brofi i ni bod cysylltiad rhwng y rhain ac Israel,” meddai Mr Amir-Abdollahian wrth NBC News.

Dywedodd Iran fod ei hamddiffynfeydd awyr wedi dinistrio tri drôn ac ni adroddodd unrhyw ddifrod neu anafiadau.

Dywedodd y gweinidog tramor eu bod "yn debycach i deganau y mae ein plant yn chwarae gyda nhw" na bygythiad difrifol, wrth iddo geisio lleihau'r bygythiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.