Newyddion S4C

Leighton James wedi marw yn 71 oed

19/04/2024
Leighton James

Mae Leighton James, cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru, wedi marw yn 71 oed.

Roedd yn flaenllaw yn chwarae fel asgellwr ac fe enillodd 54 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 10 gôl.

Cafodd ei fagu yng Nghasllwchwr, Abertawe, ac fe chwaraeodd dros glybiau Dinas Abertawe, Casnewydd a Burnley.

Fe chwaraeodd fwy na 600 o gemau yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr.

Roedd hefyd wedi rheoli sawl tîm yng Nghymru, gan gynnwys Llanelli a Garden Village.

'Un o'r goreuon'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhannu’r newyddion bod Leighton James wedi marw.

"Ymhlith ei eiliadau enwocaf gyda’r ddraig ar ei grys roedd sgorio cic gosb mewn buddugoliaeth enwog dros Loegr yn Wembley yn 1977.

"Roedd yn seren o’r unig dîm o Gymru i fod ar frig y grŵp rhagbrofol cyn mynd ymlaen i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn Ewro 1976.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg drist hon.

"Dewin. Un o'r goreuon ac un o ser tim 1976. Newyddion trist iawn."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: "Mae Abertawe yn drist iawn o glywed am farwolaeth Leighton James yn 71 oed.

"Roedd yr asgellwr dawnus, sy’n cael ei ystyried yn eang fel un o chwaraewyr gorau’r Elyrch, yn ffigwr allweddol yn y tîm a sicrhaodd ddyrchafiad cyntaf erioed i’r brig yn 1981, gan sgorio gôl syfrdanol yn y fuddugoliaeth dros Preston North End yn Deepdale i gwblhau codiad y clwb."

Llun: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.