Newyddion S4C

Wynebau newydd yn ymuno â Heno

22/04/2024
Heno

Bydd rhaglen Heno ar S4C yn ail-lansio nos Lun gyda rhai wynebau newydd ymysg y cyflwynwyr.

Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair fydd yn parhau i gyflwyno gyda Mirain Iwerydd hefyd yn ymuno â’r tîm yn y stiwdio yn Llanelli.

Mae wynebau newydd o fewn y tîm gohebu gyda James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies yn ymuno â’r gyfres.

Fe fydd na un newid mawr arall, gyda’r hen soffa felen yn diflannu ac un oren, newydd yn cymryd ei lle.

Er y newidiadau fydd i wedd y rhaglen, mae cynhyrchwyr Heno wedi pwysleisio y bydd y rhaglen yn dal i ddod â holl straeon Cymru i’r gwylwyr ar S4C.

Dywedodd y gyflwynwraig a chynhyrchydd y rhaglen, Angharad Mair sydd wedi bod yn rhan o Heno ers ei dechrau 33 mlynedd yn ôl:“I fi y peth pwysicaf am Heno ac wedi bod ers y dechrau ac sy’n parhau fel ethos y rhaglen yw’r gwylwyr. Rhaglen y gwylwyr yw Heno yn fwy na dim. Nhw sy’n berchen y rhaglen.

“Mae’n braf gallu adlewyrchu yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd mewn cymunedau gwahanol yng Nghymru ac adlewyrchu holl dalentau Cymru hefyd.

“Er ein bod ni’n aml yn poeni am sefyllfa y Gymraeg, y gwir yw, yn sgil llwyddiant addysg Gymraeg mae croes doriad mwy amrywiol o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn.

“Mae Cymry Cymraeg nawr yn llwyddiannus ymhob math o feysydd ym mhob cwr o’r byd ac mae’n beth braf gallu adlewyrchu hynny ar Heno hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.