Llywodraeth Cymru 'o ddifrif' am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “cymryd o ddifri” eu targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar ôl beirniadaeth.
Maen nhw’n wynebu haeriad gan un o aelodau pwyllgor iaith a diwylliant y Senedd y bydd “bron yn amhosib” bwrw'r targed nad oes digon o gyrsiau ar gael i gwrdd â’r galw.
Daw’r feirniadaeth ar ôl i Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, gyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor.
Fe ddywedodd nad oes modd cyrraedd y twf “anferth” mewn darpariaeth yr oedden nhw wedi gobeithio amdano.
Roedd hi’n siarad o flaen y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a oedd yn edrych yn benodol ar ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar ôl 16 oed.
Dywedodd wrth y pwyllgor fod yna restrau aros ar gyfer pobol sydd eisiau dysgu Cymraeg, “felly mae’r galw yn uwch na’r hyn y gallwn ei gyrraedd ar hyn o bryd”.
“Mae ein gwaith wedi tyfu ers sefydlu’r ganolfan nôl yn 2016 ac mae cyllid wedi tyfu gyda hynny,” meddai.
“Ond, i gyrraedd mwy o bobl, yn amlwg, mae angen mwy o gyllid.”
Ymatebodd yr aelod o Senedd Cymru Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru, bod toriadau Llywodraeth Cymru yn peryglu targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd: “Roedd cyrraedd targedau Cymraeg 2050 eisoes yn heriol a bron yn amhosibl nawr.
“Mae yna risg ein bod ni’n colli allan ar gyfle hanesyddol.”
Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn dyrannu £53.5m i gefnogi gwariant ar y Gymraeg, gan olygu gostyngiad o bron i £3m o’i gymharu â’r llynedd, yn ôl un adroddiad.
‘Cymryd o ddifri’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae agenda cyni Llywodraeth y DU yn golygu bod yna bwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau gofal, ac ysgolion.
“Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith yn darged yr ydym yn ei chymryd o ddifri, ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i gyfyngu’r effaith ar y Gymraeg, gan gynnal y cyllid sydd ar gael i addysg statudol Gymraeg a’r blynyddoedd cynnar.
“Rydyn ni wedi gorfod ail-flaenoriaethu’r cyllid sydd ar gael i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan gynnal lefelau cyllideb 2023-24, er mwyn sicrhau bod pob gwasanaeth rheng flaen o fewn cyllideb Cymraeg 2050 yn cael eu hamddiffyn."
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu rhoi arian ychwanegol i’r Coleg a’r Ganolfan Dysgu yn 22-23 a 23-24, a bydd hyn yn gyfle i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’r arian sydd ar gael.