
'Trychineb i bêl-droed': Beirniadu'r penderfyniad i gael gwared ar gemau ail-gyfle Cwpan yr FA
Mae rheolwr CPD Casnewydd wedi dweud bod cael gwared ar gemau ail gyfle o Gwpan FA Lloegr yn "drychinebus i bêl-droed."
Ddydd Gwener fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Lloegr cyhoeddi na fydd gemau ail-gyfle (replays) yn cael eu chwarae yn y gystadleuaeth y tymor nesaf.
Mewn datganiad dywedodd yr FA: "Rydym wedi bod yn trafod y calendr ar gyfer tymor 2024-25 gyda’r Uwch Gynghrair ac EFL ers ymhell dros flwyddyn.
"Trafodwyd dileu gemau ail-gyfle o Gwpan FA Lloegr yn y cyfarfodydd cynnar a derbyniodd pob plaid na allent barhau.
"Roedd y trafodaethau wedyn yn canolbwyntio ar sut i gryfhau ein holl gystadlaethau, er gwaethaf y ffaith bod llai o ddyddiadau ar gael a'u bod eisiau cynnal lles chwaraewyr.
"Mae'r newidiadau i Gwpan FA Lloegr yn cyflawni hyn trwy ei ddychwelyd i gystadleuaeth penwythnos ym mhob rownd, a sicrhau bod gennym slotiau darlledu unigryw mewn calendr cynyddol orlawn."
Ychwanegodd y byddai mwy o fanylion ar gael maes o law, ond mae'r penderfyniad wedi derbyn beirniadaeth yn barod.
'Colli ffydd'
Dywedodd rheolwr CPD Casnewydd, Graham Coughlan bod y penderfyniad yn "warthus" ac roedd yn cwestiynu pwy sydd yn gwneud y penderfyniadau.
"Dwi'n meddwl ei fod yn drychineb i bêl-droed, yr EFL, i'r clybiau a'r cefnogwyr," meddai.
"Dwi'n cwestiynu'r broses gwneud penderfyniadau ym mhêl-droed, pwy sy'n gwneud y penderfyniadau? Dwi'n cwestiynu, a ydyn nhw yn gwisgo crys a thei? Siŵr o fod. Ydyn nhw erioed wedi bod yn rhan o'r dorf mewn gemau? Na, dwi ddim yn meddwl.
"Hoffwn wybod os ydy'r Gymdeithas Bêl-droed dal yn bwriadu cymryd canran o'r arian rydym yn ennill o werthu tocynnau, a rhoi halen ar friw i glybiau yn y cynghreiriau is?
"Mae'n benderfyniad gwarthus i bêl-droed, i ramant Cwpan yr FA ac i glybiau'r cynghreiriau is ac yn yr EFL."

Ychwanegodd bod clybiau'r EFL, cynghreiriau Lloegr, heb gael eu hysbysebu am y newid nac wedi cael cyfle i leisio barn ar y newid.
"Doedd dim democratiaeth, dim pleidleisio, dim opsiynau i'r 720 o glybiau eraill sydd yn cychwyn yn rowndiau cyntaf Cwpan yr FA," meddai.
"Mae'n adrodd cyfrolau bod yr 20 clwb uchaf yn cael lleisio barn ac mae'r tua 700 eraill dim - rydym yn gwybod lle'r ydym yn sefyll yn y system.
"Rydym yn talu ein harian, rydym yn caru'r cwpan, i gymryd eich plant neu eich teulu i wylio Cwpan yr FA.
"Byddaf yn sicr yn edrych ar y penderfyniadau byddaf yn gwneud yn y dyfodol ynglŷn â Chwpan yr FA, achos chi'n dechrau colli diddordeb.
"Rydych chi mynd i golli ffydd yn y Gymdeithas Bêl-droed a'r awdurdodau pêl-droed pan mae pethau fel hyn yn digwydd."
Ar hyd y blynyddoedd mae CPD Casnewydd wedi elwa o chwarae gemau ail-gyfle.
Chwaraeodd y clwb gêm ail-gyfle yn y gystadleuaeth yn Wembley yn erbyn Tottenham Hotspur yn 2018.
Yn ogystal, enillodd y clwb mewn gêm ail-gyfle yn erbyn Middlesborough y flwyddyn ganlynol, a oedd yn golygu eu bod yn herio un o dimau gorau'r byd, Manchester City yn y rownd nesaf.
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans