Newyddion S4C

Cwest: Dynes yn gorwedd yng nghanol y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar ger Pwllheli

19/04/2024
Anna Llewelyn Roberts

Mae cwest wedi clywed fod mam ifanc  yn gorwedd yng nghanol y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar a’i lladd ger Pwllheli yng Ngwynedd.

Roedd Anna Llewelyn Roberts, 27 oed, wedi bod yn cerdded adref ar hyd ffordd yr A499 i gyfeiriad Y Ffôr toc wedi 02:00 fore Sadwrn, 20 Awst  2022, pan gafodd ei tharo gan gar Ford Focus oedd yn cael ei yrru gan David Wyn Jones.

Wrth roi tystiolaeth ger bron y crwner, dywedodd Mr Jones ei fod yn gyrru am adref ar ôl mynd a'i fab i Sir Gaerhirfryn, a’i fod wedi sylweddoli fod “rhywbeth” yn y ffordd, ond ei fod ar y pryd wedi meddwl mai rhan o’r tarmac oedd mewn “lliw gwahanol”. 

Unwaith yr oedd wedi sylweddoli ei fod wedi taro rhywbeth, fe stopiodd y cerbyd yn syth a galw’r gwasanaethau brys.

Fe glywodd y cwest gan ymchwilydd i’r gwrthdrawiad y byddai wedi bod bron yn amhosib i Mr Jones fod wedi gweld Ms Roberts yn gorwedd yn y ffordd, gan fod y rhan honno o’r ffordd yn “eithriadol o dywyll” oherwydd gorchydd coed a diffyg goleuadau stryd.

'Byth yr un fath'

Roedd Ms Roberts wedi bod allan yng nghlwb nos y Venu ym Mhwllheli tan ychydig wedi 01:35 y bore, ac fe welwyd ar gamerau diogelwch Ms Robers yn gadael y clwb i gyfeiriad arhosfan tacsi Pwllheli, ond nid oedd yr un tacsi yno ar y pryd.

Fe gafodd adroddiad post mortem ei gyflwyno i’r llys, ac fe glywlwyd fod lefel yr alcohol yng ngwaed Ms Roberts dros ddwy waith y lefel gyfreithlon i yrru.

Fe ddyfarnodd yr Uwch Grwner ar gyfer y Gogledd Orllewin, Ms Kate Robertson, reithfarn o farwolaeth drwy wrthdrawiad traffig.

Mewn teyrnged ar ôl ei marwolaeth dywedodd y teulu bod "Anna yn gymar, mam, merch, chwaer, wyres a ffrind arbennig iawn. Yn llawn balchder am ei merch fach Erin, a’i bywyd yn troelli o’i hamgylch".

"Ei hannwyl gariad Iwan, ei theulu a'i chydweithwyr yn Rondo Media oedd popeth iddi," medden nhw.

"Nid oes unrhyw eiriau nac emosiwn i gyfleu ein colled, ni fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Anna."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.