Eisteddfod yr Urdd 2026 i gael ei chynnal ar Gae Sioe Môn
Cae Sioe Môn ar Ynys Môn fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2026.
Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yno, ger Gwalchmai, rhwng 25 a 31 Mai.
Dyma fydd y tro cyntaf y bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’r ynys ers 2004.
Mae Manon Wyn Williams, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2026 yn “edrych ymlaen yn eiddgar” i’r ŵyl ddod yn ôl i Ynys Môn unwaith eto.
“Mae’r paratoadau wedi dechrau a’r pwyllgorau wedi eu sefydlu ac mae gennym griw arbennig o wirfoddolwyr gweithgar a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad hyd yma.
“Y cam nesaf yw sefydlu’r pwyllgorau apêl ymhob cymuned ledled yr Ynys a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian.”
'Croeso cynnes'
Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, bydd cynnal yr ŵyl ar Gae Sioe Môn yn rhoi cyfle i drigolion lleol “(d)dathlu ac ymfalchïo yn eu Cymreictod”.
Mae “croeso cynnes” i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i’r sir meddai.
“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Urdd er mwyn sicrhau bod ni’n gwneud y mwyaf o’r cyfle rhagorol yma i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau,” meddai.
Mae Eisteddfod yr Urdd nawr yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Llywyddion y Dydd yw pobl adnabyddus lleol sy’n cynrychioli’r ynys ac yn “esiampl” i blant a phobl ifanc.
Llywyddion Anrhydeddus yw unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi.