Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r dydd

26/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Sadwrn, 26 Mehefin.

Euro 2020: Cymru i herio Denmarc yn Amsterdam

Mae Cymru’n paratoi i wynebu Denmarc wrth i’r wlad anelu am le yn rowndiau'r chwarteri.  Fe lwyddodd Cymru i orffen yn ail yn eu grŵp, a hynny er gwaethaf colli yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.  Bydd y gic gyntaf am 17:00.

Cais i brynu tai ar stryd yn Llandudno yn codi gwrychyn perchnogion lleol

Mae dynes o Sir Conwy wedi disgrifio derbyn llythyr yn gofyn iddi pe bai ganddi ddiddordeb gwerthu ei chartref ar gyfer ei ddefnyddio fel tŷ haf yn "dorcalonnus". Roedd Dawn McGuinness, sydd yn byw ar y Gogarth ger Llandudno, wedi derbyn llythyr ddydd Mercher gan unigolyn o Fanceinion oedd wedi mynegi diddordeb mewn prynu ei thŷ, er nad oedd ar werth. Roedd llythyrau gan yr unigolyn wedi ei anfon at 15 o berchnogion tai ar ei stryd meddai. Mae ysgrifennwr y llythyr wedi ymddiheuro am achosi unrhyw bryder.

Matt Hancock dan bwysau i ymddiswyddo – Sky News

Mae’r Gweinidog Iechyd Matt Hancock yn wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo ar ôl i fideo ymddangos ohono yn cofleidio cyd-weithwraig, yn groes i gyfyngiadau Covid-19 ar y pryd. Cafodd y fideo CCTV o Mr Hancock yn cusanu Gina Coladangelo ei gyhoeddi gan The Sun ddydd Gwener. Mae Mr Hancock, sy’n briod, wedi ymddiheuro am “adael pobl i lawr”. Gyda’r digwyddiad yn dyddio nôl i fis Mai 2020, pan roedd cyfyngiadau pellhau cymdeithasol mewn grym, mae Mr Hancock wedi cael ei feirniadu’n llym gan deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19. 

‘Cymru ddim mewn sefyllfa’ i lacio cyfyngiadau i deithwyr sydd wedi’u brechu yn llawn

Nid yw Llywodraeth Cymru yn diystyru llacio’r cyfyngiadau ar deithio tramor i bobl sydd wedi'u brechu yn llawn, yn ôl y Prif Weinidog. Serch hynny, dywedodd Mark Drakeford nad ydy e’n credu fod Cymru mewn sefyllfa i allu gwneud hynny eto. Daw’r sylwadau ar ôl i’r Gweinidog Trafnidiaeth Grant Shapps ddweud fod Llywodraeth y DU yn ystyried dod â’r cyfnod hunan-ynysu i ben ar gyfer pobl sydd wedi eu brechu yn llawn “yn ddiweddarach yn yr haf”.

Rhyddhad a rhwystredigaeth wrth groesawu torf unwaith eto

Mae clybiau pêl-droed ledled Cymru yn cael croesawu torf unwaith eto, wedi bron i flwyddyn a hanner heb gefnogaeth byw. Er bod y newyddion yn cael ei groesawu, mae rhwystredigaeth am y canllawiau sy’n rhaid i’r clybiau eu dilyn. Yn ôl canllawiau’r Gymdeithas Bêl-droed, bydd rhaid cael gwiriad tymheredd gan bawb cyn cael mynediad i’r cae, a bydd rhaid cwblhau 'Cod Ymddygiad Gwylwyr' a 'Holiadur Meddygol'. Bydd rhaid gwisgo masgiau bob amser a chadw pellter cymdeithasol trwy gydol y gêm. Er bod y cyfyngiadau yn ddealladwy, mae annhegwch ynghylch y gofynion, yn ôl un clwb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.