Newyddion S4C

‘Cymru ddim mewn sefyllfa’ i lacio cyfyngiadau i deithwyr sydd wedi’u brechu yn llawn

Newyddion S4C 26/06/2021

‘Cymru ddim mewn sefyllfa’ i lacio cyfyngiadau i deithwyr sydd wedi’u brechu yn llawn

Nid yw Llywodraeth Cymru yn diystyru llacio’r cyfyngiadau ar deithio tramor i bobl sydd wedi'u brechu yn llawn, yn ôl y Prif Weinidog.

Serch hynny, dywedodd Mark Drakeford nad ydy e’n credu fod Cymru mewn sefyllfa i allu gwneud hynny eto.

Cafodd cyfres o newidiadau eu cyflwyno i’r rhestr oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol eu cyhoedd i'r wythnos hon.

Fe fydd Ynysoedd Baleares Sbaen ymhlith y lleoliadau sy'n symud i restr werdd teithio rhyngwladol am 4 o'r gloch fore Mercher, 30 Mehefin.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Grant Shapps fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried dod â’r cyfnod hunan-ynysu i ben ar gyfer pobl sydd wedi eu brechu yn llawn “yn ddiweddarach yn yr haf”.

Ond wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mark Drakeford angen ystyried trylwyr cyn dod i benderfyniad ar unrhyw newid.

“Ni ddim yn deud bo ni ddim yn mynd i neud e, ond mae lot o bethe ni angen trafod, lot o dystiolaeth i dod da’i gilydd, a chyngor i’w gael.

“Dydy'n ni ddim yn y sefyllfa hynny, a dwi ddim yn meddwl bod Lloegr ddim yn y sefyllfa yna hefyd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.