Newyddion S4C

Rhyddhad a rhwystredigaeth wrth groesawu torf unwaith eto

26/06/2021
maes tegid

Mae clybiau pêl-droed ledled Cymru yn cael croesawu torf unwaith eto, wedi bron i flwyddyn a hanner heb gefnogaeth byw.

Er bod y newyddion yn cael ei groesawu, mae rhwystredigaeth am y canllawiau sy’n rhaid i’r clybiau eu dilyn.

Yn ôl canllawiau’r Gymdeithas Bêl-droed, bydd rhaid cael gwiriad tymheredd gan bawb cyn cael mynediad i’r cae, a bydd rhaid cwblhau 'Cod Ymddygiad Gwylwyr' a 'Holiadur Meddygol'.

Bydd rhaid gwisgo masgiau bob amser a chadw pellter cymdeithasol trwy gydol y gêm.

Er bod y cyfyngiadau yn ddealladwy, mae annhegwch ynghylch y gofynion, yn ôl un clwb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn cyd-weithio gyda sefydliadau fel y Gymdeithas Bêl-droed er mwyn sicrhau fod y canllawiau yn eglur.

Image
Maes Tegid, cartref Clwb Pêl-droed y Bala
Maes Tegid, cartref Clwb Pêl-droed y Bala. (Llun: CPD Y Bala)

Bydd Clwb Pêl-droed y Bala yn cael croesawu 100 o bobl i Faes Tegid ddydd Sadwrn, wrth i’r tîm herio Bae Colwyn adref.

“De ni’n hapus dros ben, ac wrth ein boddau bo ni’n cael cefnogaeth nôl fewn,” dywedodd Ruth Crump, Ysgrifennydd y clwb wrth Newyddion S4C.
 
“Ond ‘de ni ddim yn hapus be ‘de ni’n gorfod mynd drwy i alluogi hyn, lle mae pobl yn gallu mynd i lefydd awyr agored eraill hefo dim track and trace.”

Mae’r gofynion yn golygu llawer iawn o waith ychwanegol i’r gwirfoddolwyr, medd Ms Crump, sydd wedi cymryd rôl fel ysgrifennydd y clwb ers 20 mlynedd.

Cyfnod ‘torcalonnus’

“Mae wedi bod yn anodd iawn dros y cyfnod, yn dorcalonnus weithie. Ond de ni di bod mor ddiolchgar bo ni wedi cael chwarae dros y tymor cyfan, lle mae llawer o glybiau heb.

“Ond dydi o ddim yn hawdd chwaith, dyne dwi’n trio ddeud. Do, de ni yn ffodus, ond mae ‘ne waith caled i allu trefnu hyn i gyd. Ond ‘de ni’n neud o achos ‘de ni’n caru’r clwb,” ychwanegodd.

Eisiau ‘tegwch’

“Sw ni’n licio gweld tecwch yn bob peth. De ni’n gallu mynd i rhai llefydd efo dim gymaint o gofynion a ma nhw’n rhoi arnyn ni. Dio’m yn neud synnwyr,” meddai.

“De ni’n cal y cyfarwyddiadau gan y Gymdeithas Bêl-droed a ma’r gofynion yn llawer mwy trwm na mynd mewn i’r dafarn. Pam? Tu mewn tafarn, mae [covid-19] i fod yn gallu lledu mwy mewn lle cyfyng, ond de ni yn yr awyr agored.

“Dwi’n gwybod bod isho cadw pawb yn saff, dwi’n dalld hynny. Ond pam bo ni’n wahanol i bawb arall?”

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae eu canllawiau yn dilyn gofynion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mater i gyrff llywodraethu a threfnwyr digwyddiadau yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru a bod mesurau diogelwch rhesymol mewn lle.

“Rydym yn gweithio i ddiweddaru ein canllaw digwyddiadau i adlewyrchu'r diweddariadau a wnaed i'n polisi mesurau rhesymol.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel FA Cymru i sicrhau bod newidiadau i ganllawiau yn cael eu deall a’u gweithredu i sicrhau profiad mwy diogel a mwy pleserus i’r rhai sy’n cymryd rhan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.